Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/560

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef, o adeg ei ddyfodiad i Dregaron, yw hanes Cyfundeb y Methodistiaid yn y Deheudir. Yn y blynyddoedd cyntaf, yr oedd Mr. Ebenezer Morris, a Mr. Charles, Caerfyrddin, mewn un ystyr yn llawn. cymaint eu dylanwad ag yntau, ac efallai yn fwy yn y ffrynt yn y Gymdeithasfa; ond efe, oblegyd ei ddeheurwydd, oedd yn benaf fel trefnydd y pryd hwnw. A chwedi marw Mr. Morris, yn y flwyddyn 1825, ac analluogi Mr. Charles, Caerfyrddin, trwy afiechyd, yn y flwyddyn 1828, daeth yr arweiniad yn gyfangwbl i'w ddwylaw ef, mewn undeb â'i frawd, y Parch. Thomas Richard. Dywed y Parch. Owen Thomas, D.D., ei fod yn llywodraethu mor effeithiol, fel na feiddiai neb godi yn ei erbyn, ac ar yr un pryd mor hynaws a boneddigaidd fel na fyddai un amser yn ymylu ar dra-arglwyddiaeth. Tystiai Dr. Lewis Edwards yn gyffelyb, na fu llywodraeth y ddau Richard, mor bell ag y sylwodd ef, nac yn annoeth nac yn ormesol, ond bob amser yn gyfiawn, gyda'r eithriad, efallai, iddynt fod i raddau yn llawdrwm ar Mr. Rowlands, Coedduon, gwedi hyny, Dr. Rowlands, o'r America, pan y darfu iddo, o herwydd. cael ei dynu i mewn gan dwyllwr, fethu yn ei amgylchiadau. Ar ysgwyddau y Parch. Ebenezer Richard yr oedd yr holl ofal. Yn ol dydd-lyfr a gadwai, pregethodd mewn dwy-flynedd-ar-hugain, sef o ddechreu 1815 hyd ddiwedd 1836, chwe' mil, wyth cant, pump-deg-a-naw o weithiau, sef tua 312 o weithiau bob blwyddyn. Yn ystod yr un amser teithiodd yn agos i driugain mil o filldiroedd, a bu yn bresenol mewn tua saith cant o gyfarfodydd cyhoeddus, sef Cyfarfodydd Misol, Cymdeithasfaoedd, a Chymanfaoedd yr Ysgol Sabbothol. Heblaw presenoli ei hun yn holl Gymdeithasfaoedd y Deheudir, yr hyn oedd yn rheidrwydd arno fel Ysgrifenydd, ymwelai â dwy neu dair o Gymdeithasfaoedd y Gogledd yn flynyddol, gan bregethu efengyl y deyrnas wrth fyned a dychwelyd. Rhaid fod ei lafur yn enfawr. Fel hyn yr ysgrifena at Mr. W. Morris, Cefncoedcymmer, gwedi hyny Pant-tywyll, pan yn ymesgusodi am beidio ateb llythyr : "Yr holl esgusawd sydd genyf i'w gynyg am fy ymddygiad anfoneddigaidd tuag atoch yw, nad oedd dim yn fwriadol yn y cwbl, a'i fod yn cyfodi oddiar ddeddf orthrymus angenrheidrwydd, gan fy mod oddicartref y rhan fwyaf o'm hamser yn pregethu, a phan ddychwelwyf, yr wyf yn gorfod myned at y gwaith o gywiro fy rhwyd, ac yna allan i'r môr drachefn gyda'r llanw cyntaf. Ac fel hyn yr wyf yn cael fy nhaflu o gwmpas, yn Sabbothol ac wythnosol. Y Sabbath yw i mi y dydd gwaith caletaf, ac y mae rhai o'r dyddiau wythnosol yn wir Sabbathau i'm henaid lluddedig i. Weithiau, wrth fyfyrio, braidd na ddymunwn fod genyf ddau enaid mewn un corph; a thrachefn wrth bregethu, egwyddori, &c., derbyniwn yn llawen ddau gorph i un enaid. Ond wedi'r cwbl nid wyf ond gwas anfuddiol iawn. Nid yw achos fy Meistr yn y byd fawr iawn gwell o'm plegyd i. O'r fath gywilydd; ac eto y mae hyd yn hyn yn ymatal rhag dileu fy enw oddiar y gofrestr; ac nid wyf hyd yma wedi cael fy ngyru allan o'r fyddin (drummed out of the regiment)." Gallwn gyfeirio at ddau beth yn hanes Mr. Richard, yn ychwanegol at ei lafur arferol, a barasant iddo bryder nid bychan, ac a drethasant ei egni yn ddirfawr. Un oedd lluniad y Cyffes Ffydd, yr hyn a wnaed gan bwyllgor unol o Ddê a Gogledd, yn nhŷ Mr. Robert Davies, Great Dark Gate Street, Aberystwyth, i'r hwn bwyllgor yr oedd Mr. Richard, mewn undeb a'r Parch. Humphrey Gwalchmai, yn ysgrifenydd. Y llall ydoedd yn nglyn â'r Weithred Gyfansoddiadol (Constitutional Deed). Tuag at i'r Weithred feddu grym cyfraith, yr oedd yn rhaid iddi gael ei llawnodi gan ymddiriedolwyr yr holl gapelau a gawsent eu hadeiladu. Ar Mr. Richard y gosodwyd casglu yr arwyddnodau hyn yn y Deheudir, a threuliodd y rhan fwyaf o ddiwedd y flwyddyn 1826, a dechreu y flwyddyn ganlynol, wrth y gorchwyl.

Gyda golwg ar ddyn allanol Mr. Richard, rhydd ei ddarlun, yr hwn a dynwyd pan oedd yn nghyflawnder ei nerth, sef ychydig dros ddeugain mlwydd oed, syniad mor gywir o hono ag a ellir ei osod ar bapyr. Dyn tal ydoedd, lydan ei ysgwyddau, ac yn meddu frame fawr. Tywyll iawn oedd ei bryd, a du fel y frân oedd ei wallt, hyd nes y dechreuodd fritho yn bur gynar. Tewychodd pan yn dra ieuanc, a chyda y tewychdod daeth math o drymder drosto, a chwsg yn cydfyned, fel yr aeth i deimlo yn hen cyn amser henaint. Yr oedd ei ymddangosiad yn y pwlpud ac allan o hono yn hynod o dywysogaidd; nid oedd yr un o'i gydweinidogion, gyda'r eithriad o Ebenezer Morris, i'w gymharu âg ef yn yr hyn a elwir presenoldeb; yn mha fan bynag y byddai, ai ar stage y