Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/563

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gymdeithasfa, yn y pwlpud, neu yn y gynhadledd, neu ynte mewn cymdeithas gyffredin, teimlid ei fod yn llanw y lle. Hynodid ef gan foneddigeiddrwydd moes; meddai galon fawr, a'i llond o dosturi; ac eto yr oedd rhywbeth ynddo yn cadw dynion draw, fel na feiddient wneyd yn eofn arno. Hyd yn nod yn Nhregaron, ei gartref, cadwai gryn bellder rhyngddo a phawb, er yr ymddygai yn hynaws a charedig atynt oll. Ni welid ef un amser ar yr heol, oddigerth pan yn myned i'r capel, neu i ymweled â rhyw glaf; ac eto, er nad ymgymysgai â'r bobl, y fath oedd ei graffder fel yr adwaenai bawb, nid yn unig o ran pryd a gwedd, ond hefyd o ran cymeriad, fel y canfyddid yn amlwg ar achlysuron neillduol. Yn ei deulu yr oedd yn frenhin, ac eto tystiai hen forwyn iddo na welid gwg un amser ar ei ael.

Safai Mr. Richard yn rhes flaenaf pregethwyr Cymru. Meddai lais rhagorol; tystiai Dr. Owen Thomas ei fod y llais mwyaf swynol a thoddedig a swniodd erioed yn ei glustiau. Llais mawr a dwfn ydoedd; nid oedd mor dreiddgar ag eiddo John Elias, ac mor gyffelyb i swn dyfroedd lawer ag eiddo Ebenezer Morris; ond rhagorai ar y naill a'r llall mewn tynerwch. Tebygai y diweddar Barch. David Howells, Abertawe, iddo yn ei ddull o draddodi, ac hefyd i raddau yn ei lais, a hyny gymaint fel y mynai hen wrandawyr Mr. Richard fod Mr. Howells yn ei ddynwared, er y mae yn sicr mai naturiol oedd y tebygolrwydd hwnw; ond methai Mr. Howells mewn ystwythder a thynerwch, ac hefyd nid oedd ei draddodiad mor lifeiriol ag eiddo Mr. Richard. Yr oedd dawn Mr. Richard fel yr afon; ni fyddai un amser arno drai na diffyg; a'r fath oedd ei feistrolaeth ar iaith fel na byddai byth ball arno, nid yn unig am air, ond am y gair angenrheidiol.

Yn ei flynyddoedd olaf, anaml y pregethai heb wylo; byddai y dagrau mawrion yn ffrydio o'i lygaid, ond yr hyn oedd yn hynod oedd na byddai ei wylo un amser yn ei rwystro i siarad; yn hytrach, effeithiai y dagrau fel olew ar ei beirianau ymadroddi nes ei alluogi i siarad yn rhwyddach.

Bu yn efrydydd caled, yn wir diorphwys, trwy ei oes. Fel y rhan fwyaf o'r hen bregethwyr, diau iddo ddarllen a myfyrio llawer ar gefn ei geffyl wrth deithio. Pan gartref, byddai yn ei fyfyrgell o foreu hyd hwyr, ac ni cheid ef o honi ond at ei bryd bwyd, neu i fyned i'r capel i'r moddion.

Yr oedd oriau gweithio crefft wyr Sir Aberteifi y pryd hwnw yn ddireswm o faith; ond dywedai mam Mr. Daniel Davies, Ton, wrtho, nad oedd na chrydd, na saer, na gôf, yn foreuach nac yn hwyrach yn ei weithdy nag oedd Mr. Richard yn ei fyfyrgell. Fel Mr. Elias, troai ei fyfyrdodau yn weddïau; ai â'r meddyliau a gaffai wrth ddarllen llyfrau, ac wrth fyfyrio, at Dduw, gan eu lledu yno a'u dal gerbron y Dwyfol Bresenoldeb, ac erfyn bendith arnynt. Aml waith y cafodd y forwyn ef, wrth fyned i mewn i'w ystafell yn ddisymwth, gan dybio ei fod ef allan, ar ei liniau mewn gweddi, a'r gadair yn wlyb gan ei ddagrau. Felly, yr oedd ei feddwl wedi ei gyflenwi â gwirioneddau yr efengyl, a'i yspryd wedi ei drwytho gan ei dylanwad. Oblegyd hyn, yn nghyd a pharodrwydd naturiol ei ddawn, byddai ganddo gaflawnder at ei alwad ar ba fater bynag y gelwid arno i siarad. Gelwid weithiau arno i draethu ar bynciau neillduol ac annghynefin, a hyny yn gwbl ddirybudd, ond bob amser byddai ef yn llefaru fel pe buasai wedi parotoi yn fanwl ar gyfer yr amgylchiad. Ond ni byddai un amser yn rhyfygu anturio i'r pwlpud heb bregeth wedi ei chyfansoddi yn fanwl; ni chafodd ei ddenu i segurdod gan y parodrwydd a feddai; ond llafuriodd yn galed i ddarllen a myfyrio hyd ddiwedd ei oes,

Ei brif nodwedd fel pregethwr oedd cyflawnder a thynerwch. Meddai ddirnadaeth eang, dychymyg cryf a bywiog, canfyddiad clir, a gallu anarferol i doddi cynulleidfa, a'i thynu i'w fynwes. Dywedir y byddai, yn ei flynyddoedd cyntaf, yn danllyd iawn, ac yn gosod ei wrandawyr hefyd ar dân. Teithiodd ef a'i frawd lawer yn y cyfnod hwnw, ac yr oedd fel pe buasai y wlad yn cael ei hysgwyd gan ddaeargryn pan fyddent hwy yn pasio trwyddi, gan mor rymus y byddent yn pregethu. Nid anfynych torai allan yn orfoledd mawr, a byddai y ddau bregethwr yn uno yn y moliant nes y byddai eu natur wedi ei llwyr orchfygu. Ond, oblegyd llesgedd, gorfu i Mr. Richard, Tregaron, arafu, a newid ei arddull; efallai hefyd fod cyfnewidiad yn ystad yr amseroedd yn galw am hyny. Yn y rhan olaf o'i oes toddi ei wrandawyr a wnelai, ac anaml y methai wneyd y galon galetaf yn llyn dwfr. "A dyma lle y byddai golygfa," ebai Dr. Owen Thomas; "efe yn wylo, a'r holl gynulleidfa yn wylo, a'r lle drwyddo yn un Bochim.' Adroddai cyfaill i ni