(Owen Elias, Ysw.) am y tro diweddaf y bu Mr. Richard yn Liverpool, fod yr hen flaenoriaid, o'r amrywiol gapelau, yn ei ddilyn o gapel i gapel trwy y dydd; ac yr oedd ein cyfaill yn sylwi fod dau neu dri o'r hen frodyr anwyl, y rhai mwyaf teimladol, can gynted ag y darllenai Mr. Richard ei destyn, yn tynu allan eu llofleni (handkerchiefs), er mwyn parotoi eu hunain i sychu eu dagrau, gan wybod y byddent dan angenrheidrwydd i'w defnyddio yn bur fuan." Ebai Mr. John Elias, Tregof, am dano: "Ei wyneb anwyl! Ni fuasai waeth i ni ddechreu crio mor gynted ag y gwelem ef, na chrio wedi hyny, oblegyd, yn hwyr neu yn hwyrach, crio fyddai raid i bawb o honom." yn rhwydd ac yn lled danbaid. Fe'n harweiniwyd i eisteddle gyferbyn a'r pwlpud, mewn lle nodedig o fanteisiol i weled a chlywed. Ond ar unwaith fe'n taflwyd i brofedigaeth fawr. Yr oedd ein mam wedi gadael argraff ar ein meddwl fod Mr. Richard yn bregethwr annghyffredin o effeithiol, bod ganddo lais nodedig o dyner, a'i fod yn ŵr tew iawn. Yr oedd yr hwn oedd yn awr yn pregethu yn ŵr lled dew, ac yr oedd ganddo lais mwynaidd, ac yr oedd rhyw hen ŵr teneu, mewn diwyg lled gyffredin, yn sefyll yn y pwlpud yn lled agos ato. Gwnaethom ein meddwl i fynu, naill ai nad oedd Mr. Richard yn llawn cystal pregethwr ag y darluniasid ef i ni, neu nad oedd wedi dyfod i'w gyhoeddiad, ac mae yr hen ŵr a welem yn y pwlpud oedd wedi dyfod yn ei le. Toc, modd bynag, fe ddywedai y pregethwr fod yn bryd iddo ef ddybenu, i roddi lle i was yr Arglwydd, ac yn fuan iawn fe derfynodd. Ar hyny, dyna ŵr tew iawn, llonaid pwlpud o ddyn, yn dyfod i'r golwg, o bryd du, a gwallt du, lled deneu, ac o ymddangosiad tra boneddigaidd. Cyn iddo roddi y penill i'w ganu, dyna yr hen bregethwr, Mr. Griffith Davies, yn anog y bobl i ymwthio yn mlaen oddiwrth y drysau; ac yn cymhell y rhai a allent i neidio i mewn i'r eisteddleoedd oeddent weigion ar y gallery, gan fod eu drysau wedi eu hoelio fel na ellid eu hagor, 'am fod y bobl,' meddai, yn myned iddynt heb dalu am danynt.' Yr oedd y capel yn ymddangos yn lled newydd. Tra yr oeddem ni yn synu wrth glywed hysbysiad o'r fath, a lliaws yn neidio i'r lleoedd gweigion, dyna Mr. Richard yn rhoddi penill i'w ganu:— "
'Deuwch, hil syrthiedig Adda,' &c.,
a hen ŵr Hafod-y-myn yn arwain y gân. Yr oedd yno ganu gwresog, a braidd ormod o hono genym ni, yn ein mawr awydd am glywed y pregethwr. Ei destun oedd, 2 Cor. ix. 15: Ac i Dduw y byddo y diolch, am ei ddawn annhraethol.' Nid ydym yn cofio nemawr o'r bregeth, heblaw ei fod yn esbonio fod y ddawn annhraethol' yn y testun yn golygu Iesu Grist, y rhodd benaf a roddodd Duw, a'r rheswm am bob rhodd arall; a'i fod hefyd yn llefaru yn helaeth iawn ar ein rhesymau i ddiolch i Dduw am dano. Ond yr ydym yn cofio yn dda ei fod yn llefaru yn hynod o effeithiol. Yr oedd y pregethwr yn wylo, y gynulleidfa yn wylo, a'r holl le mewn