eilwaith: "Beth y mae yn myned i wneyd o honynt?" Yr atebion i'r holl gwestiynau hyn oedd y darnau priodol o'r adnodau. Pan yn adrodd, ac yn ail adrodd, mewn atebiad i'r cwestiwn olaf a'r cwestiynau oedd yn codi oddiarno, y geiriau: "A mi a esmwythâf arnoch," yr oedd yr effeithiau. yn fawr iawn. Ac wrth adrodd yr adnod ddilynol: "A chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau," rhoddodd William Evans, Llanio Isaf, floedd: "O diolch!" ac ar hyn aeth yn ddiolch trwy yr holl gynulleidfa, fel nad oedd yn bosibl myned yn mlaen yn mhellach gyda'r holwyddori; ac yn yr agwedd hono y terfynodd y Gymanfa."
Byddai yn aml wrth holi ysgol yn dal ar ryw air, neu ymadrodd mewn adnod, nes tynu sylw pawb ato. Adrodda y Parch. John Evans, Abermeurig, am Mr. Richard yn holi ysgol Maesyffynon, mewn Cymanfa yn Abermeurig. Y pwnc yma eto oedd y farn; a'r adnod fawr oedd : Canys rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist;" a'r geiriau y daliai efe arnynt oedd "ni oll." Gofynai "Pwy raid ymddangos?" "Ni oll." "Ni oll." "Dywedwch eto."
"Pwy?" "Ni oll." "Rhaid i ni "A raid i bob un o ysgol Maesyffynon ymddangos yn y yn y farn?" oll." Yr oedd yr holi a'r ateb yn myned yn gryfach ac yn fwy gwresog wrth fyned yn mlaen. Wedi aros yn hir gyda'r ysgol trodd at y gynulleidfa, gan ddweyd: "Yr ydych chwi, y dyrfa fawr, yn clywed i gyd, mae yn rhaid i bob un o ysgol fach Maesyffynon ymddangos yn y frawdle. A ydyw hyn yn wir am danoch chwi ?" Atebodd y dyrfa: "Rhaid i ni oll." Wedi troi a throsi am ychydig, gofynodd : "A fydd vaid ymddangos?" "Rhaid i ni oll." "A fydd pawb yn foddlon ymddangos?" "Na fyddant." "A fydd yn rhaid i'r rhai hyny?" "Rhaid i ni oll." "A fydd rhai yn foddlon ymddangos?" "Bydd." "Pwy fydd y rhai hyny?" rhai hyny?" Atebai rhai, "y saint;" ac eraill, "y duwiolion;" ond dyma rywun yn gwaeddi o ganol y llawr: ffryndiau'r Barnwr fyddant!" Aeth yr ateb fel gwefr trwy y lle; ofer ceisio holi ychwaneg. Yr oedd rhai yn gwaeddi am "hyder ddydd y farn;" eraill yn canu,
"O flaen y fainc rhaid sefyll," &c.;
ac eraill yn gorfoleddu, "Dacw y Duw y gobeithiasom ynddo." Felly mewn sain cân a moliant y terfynodd y Gymanfa hon.
Yr oedd wedi holi yn hynod gefnogol i rai gweiniaid; derbyniai atebion am- mherthynasol, gan eu troi i ateb y mater dan sylw. Yr oedd yr hynod Theophilus Jones, Tregaron, ac yntau mewn Cymanfa Ysgolion yn Nhalyllychau, Sir Gaerfyrddin. Holai "The. Jones," fel ei gelwid, ysgol Cwmdu am Dduw, a gofynai am adnod fwy pendant i brofi ei fodolaeth. O'r diwedd cododd llanc ar ei draed, gan adrodd yr adnod, "Ac yr oedd dyn o'r Phariseaid a'i enw Nicodemus." Cyffrodd yr hen bregethwr, ac meddai, "Dyna adnod ryfedd i brofi fod Duw. Ysgol Cwmdu sydd yn ateb; ïe, a du iawn y'ch chwi hefyd." Yr oedd Mr. Richard yn holi ysgol arall yn ganlynol, ac meddai, "Yr wyf bob amser wrth fy modd mewn Cymanfa Ysgolion, ac ni theimlais erioed yn fwy hapus na heddyw. Yr ydych yn ateb yn rhagorol iawn. Nid oedd modd cael adnod well nag eiddo y gŵr bach yna i brofi y pwnc: 'Ac yr oedd dyn.' Beth eill brofi yn fwy amlwg fod Duw, na bod dyn? Da machgen i, am ddod ag adnod mor bwrpasol." Yr oedd pawb yn gwenu, a The. Jones y tu cefn yn ocheneidio yn drwm, ac yn dweyd, "Ho, ho, druan! Ho, ho, druan!"
Meddai hoffder angherddol at blant. Pan yn myned unwaith i Gyfarfod Misol yn Llanon, yn nghwmni Mr. David Jones, Dolaubach, gwelai gryn nifer o blant Bethania ar y ffordd yn chwareu. Trodd atynt ar unwaith, gan ddechreu eu holi, a'r plant yn ateb wrth eu bodd. "Yr ydych wedi cael cwrdd plant, Mr. Richard," ebai David Jones; "O," ebai yntau, "y mae yn rhaid gwneyd tipyn mewn amser ac allan o amser.' Teimlai hoffder mawr at Bethania. Yr oedd yno yn cadw Cyfarfod Jiwbili yr ysgol Sabbothol, yn y flwyddyn 1831, ac yr oedd hwnw yn un o'r rhai hynotaf yn nghôf yr hen bobl. oedd yn yr un lle yn gofyn addewidion at yr ail gapel, ac meddai: "Pan y bydd dynion yn myned i olchi defaid, y maent yn arfer taflu y llwdn cryfaf yn gyntaf i'r llyn, fel y byddo hwnw yn arwain y lleill. Gwell i ninau wneyd yr un fath, am hyny mi a ofynaf eich enw chwi, John Davies blaenor cyfoethog—"yn gyntaf."
Yr oedd yn ddihafal fel ysgrifenydd llythyrau. Yr ydym wedi crybwyll eisioes am ei waith yn ysgrifenu at foneddwr, ar ran cynulleidfa Llanddewibrefi, pan oedd hono wedi cael ei throi allan o'i chapel adeg y Neillduad, i ofyn am ddarn o ddaear i adeiladu capel newydd arno. Daeth