Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sabbath hefyd i'r un perwyl. A phan fyddai efe yn myned bellder ffordd i'r addoliad ar y Sul, cymerai John, yr hynaf o'r plant, a'r hwn a adwaenir yn awr fel y Parch. John Roberts, Llangwm, ofal yr ysgol hyd oni ddychwelai. Nos Sul, byddai yn holi y teulu am yr hyn oeddynt wedi ddysgu yn ystod yr wythnos, ac yn eu hyfforddi yn y Catecism. Trwy hyn, dysgodd Robert Roberts ddarllen Cymraeg yn dra ieuanc. A gafodd efe ryw gymaint o ysgol arall, ni ddywedir. Os do, y mae yn sicr nad oedd ond pur ychydig; nid oedd amgylchiadau ffermwr bychan, a feddai dri-ar-ddeg o blant i'w porthi a'u dilladu, yn gyfryw ag a'i galluogai i roddi llawer o addysg iddynt.

Gwelwn i Robert Roberts gael ei ddwyn i fynu yn nghanol dylanwadau crefyddol. A phan yr oedd o gwmpas saith mlwydd oed, darfu i'w frawd John, ac efe yn llanc iraidd dwy-flwydd-ar-bymtheg, ymuno â chrefydd; ac o hyny allan bu Robert yn wrthddrych ei fawr ofal. Ymddengys ei fod yntau, tra yn blentyn, yn dra addawol. Meddai gof cryf, a dysgai y Catecism a phenodau o'r Beibl gydag awch. Ond, ysywaeth, pan tua phedair-blwydd-ar-ddeg oed, collodd yr argraffiadau crefyddol; aeth yn llanc ieuanc gwyllt, gan ganlyn oferedd a chymdeithion annuwiol. Aeth llyfrau yn ddiflas ganddo, a byddai yn nesaf peth i anmhosibl ei berswadio i ddyfod i wrando pregeth. Ymroddodd, gyda holl afiaeth ei natur, i ganlyn y campau llygredig oeddynt yn uchel eu bri y pryd hwnw. Mawr oedd tristwch y teulu o'i blegyd, ac yr oedd John yn arbenig yn gofidio wrth ei weled wedi ymroddi i rysedd. Eithr pan yr oedd Robert tuag un-ar-bymtheg oed, gwnaed yn hysbys trwy yr ardal fod Jones, Llangan, yn dyfod ar daith trwy ranau o Sir Gaernarfon, ac y byddai yn pregethu yn Brynyrodyn ar ddydd ac awr benodol. Mawr y cyffro a barodd ei ddyfodiad; yr oedd enw Jones, Llangan, yn meddu swyn diderfyn trwy yr oll o Wynedd. Trwy fawr drafferth, cafodd John gan Robert addaw y deuai i'r odfa.

Erbyn i adeg y cyfarfod ddyfod, nis gallai capel bychan Brynyrodyn gynwys degwm y gynulleidfa anferth oedd wedi ymgynull, a hyny o bob rhan o'r wlad; a bu raid i Mr. Jones bregethu yn yr awyr agored. Diwrnod teg yn yr haf ydoedd, a chanol dydd. Ar gyfer y lle y safai y pregethwr yr oedd clawdd cerig, ac yno yr eisteddai ieuenctyd dibris y gwahanol gymydogaethau yn rhesi, tra yr oedd y bobl grefyddol yn ymwasgu yn mlaen mor agos ag y medrent at ŵr Duw. Felly yr oedd y ddau frawd o'r Ffridd wedi eu gwahanu; un yn eistedd ar y clawdd cerig yn nghanol annuwiolion, a'r llall yn cymeryd ei le yn mysg y saint. Yn ol Dr. Owen Thomas, John Roberts ddechreuodd odfa. Testun Mr. Jones ydoedd, Zech. ix. 12: "Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol." Tri mater oedd ganddo; y carcharorion, yr amddiffynfa, a throi i'r amddiffynfa. Dechreuodd ddesgrifio sefyllfa caethion pechod, eu caethiwed caled, eu meistr creulon, eu gwasanaeth ffiaidd, a'u diwedd echryslon; ac os mai yn mlaen yr elent, nes cyrhaedd y cartref ofnadwy sydd yn eu haros, na ddeuai neb byth i'w gwahodd i'r amddiffynfa. "Ond," meddai yr Efengylydd o Langan, a'i lais yn toddi i'r mwyneidd-dra mwyaf, "yr wyf fi yn eich galw i'r amddiffynfa heddyw." Yr oedd yn lle ofnadwy yno er ys meityn; y llanciau annuwiol a wyneb-lasent, a theyrnasai dychryn a braw yn eu calonau. Yr oedd John Roberts yn taflu cil ei lygad yn awr ac yn y man yn barhaus ar ei frawd; a gwelodd ei ben yn syrthio. Ni wyddai y rheswm ychwaith, ai selni oedd arno, ynte a oedd saeth oddiar fwa y pregethwr wedi ei drywanu. Aeth Mr. Jones yn ei flaen i ddesgrifio Crist fel amddiffynfa, a'r rhagorfraint o gael dyfod ato. Gyda hyn, daeth tywalltiadau hyfryd i lawr; gwenai y duwiolion trwy eu dagrau, a gorphenodd y cyfarfod mewn sain cân a moliant.

Ond beth am y llanc annuwiol o'r Ffridd? Ar ddiwedd yr odfa aeth John i chwilio am dano, ond methai ei weled. O'r diwedd, canfyddodd ef wrtho ei hun yn brysio tuag adref. Yr olwg arno oedd dra sobr; dangosai gwedd ei wyneb ei fod wedi bod yn wylo yn drwm, a phrin yr atebai air. Tybiodd ei frawd ar y cyntaf fod rhyw glefyd angeuol wedi cydio ynddo, a holai yn awyddus a ydoedd yn iach. Atebai yntau yn fyr: "Ydwyf, lawn mor iach ag arfer." Eithr yn mhen trydiau, aeth trallod ei enaid yn drech nag ef; galwodd ar John o'r neilldu, a mynegodd iddo ing ei fynwes. Cynghorodd ei frawd ef i gefnu am byth ar deyrnas y diafol, a rhoi ei hunan yn gyfangwbl i'r Arglwydd, ac i'w bobl. Mewn canlyniad, ymunodd Robert Roberts a'r seiat ar unwaith, er. mawr lawenydd i'w deulu, ac i'r holl frawdoliaeth. Ond bu am amser maith cyn cael heddwch i'w enaid. Ac