Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddengys fod arteithiau ei feddwl yn ofnadwy. Teimlai ei hun o ran ei brofiad ar fin colledigaeth; rhuai ei gydwybod ynddo fel arthes; mor arswydus yr ymddangosai rhoddi cyfrif i Dduw iddo, fel braidd na ddymunai gael bod yn greadur afresymol, er mwyn ysgoi y farn. Pan yn cyfeirio at yr amgylchiad wrth ddweyd ei brofiad mewn Cymdeithasfa flynyddoedd ar ol hyn, dywedai fod y dychrynfeydd a lanwent ei fynwes y fath, fel y byddai yn cenfigenu wrth y cywion gwyddau oeddynt o gwmpas tŷ ei dad, a'i fod yn dymuno ei fod yntau wedi cael ei wneyd yn gwydd yn lle bod yn ddyn. Pa hyd y parhaodd yn y profiad hwn, nis gwyddom, na pha foddion a fendithiwyd i ddwyn heddwch i'w enaid. Ond heddwch gafodd; torwyd y maglau, a dihangodd yntau fel aderyn o rwyd yr adarwr. A dyma Robert Roberts yn ddyn newydd am dragywyddoldeb.

Y pryd hwn gweithiai mewn gwaith llechau, o'r enw Cilycwm, yn agos i'w gartref. Ond meddyliodd ei deulu mai gwell iddo fyddai gadael y gwaith llechau, a myned i wasanaethu ar fferm. Nid annhebyg mai un amcan yn eu golwg oedd tori y cysylltiad rhyngddo a'r llanciau annuwiol, à pha rai y cydweithiai. Cydsyniodd yntau, a chyflogodd ei hun i fod yn was ar dyddyn o'r enw Cefn Pencoed, yn Eifionydd, ac ymaelododd yn Brynengan. Yr oedd seiat Brynengan yn enwog am ei gwresawgrwydd; perthynai iddi ddynion cryfion o feddwl, a helaeth mewn gras; a chafodd y llanc dyeithr a ddaethai yno bob caredigrwydd oddiar eu llaw. Erbyn hyn, yr oedd blys anniwall arno am wrando pregethau, ac os deuai cyhoeddiad pregethwr i rywle yn y gymydogaeth, byddai ef yn sicr o fod yn yr odfa. Nid oedd ei feistr yn cael bod yn golledwr mewn un modd o'r herwydd; gofalai godi yn foreuach, a dilyn wrth ei orchwyl yn hwyrach, er mwyn gwneyd iawn cyflawn am yr amser a gollai. Ysgrifenai bob pregeth a wrandawai. Prin y rhaid dweyd nad oedd wedi dysgu llaw fer; ond ei arfer ydoedd myned ar ei union o'r odfa i rywle o'r neilldu, ac ysgrifenu y cwbl oedd yn allu gofio; a'r fath fywiogrwydd a gafael oedd yn ei gof, fel y byddai y bregeth ganddo agos oll. Elai yn aml i Langeitho, gyda hen grefyddwyr Brynengan, i wrando Rowland; a gwnelai yn gyffelyb gyda ei bregeth ef. Dywedodd rhywun wrth Rowland fod yno ryw lanc o Sir Gaernarfon wedi ysgrifenu ei bregeth air am air. "Na choelia i," meddai y Diwygiwr; "nid oes neb eto wedi llwyddo i wneyd hyny." "Yn wir, Syr," oedd yr atebiad, "y mae yn debyg iawn." Parodd yntau iddynt gyrchu Robert Roberts ato, a chwedi ei ddyfod, archodd iddo ddarllen yr hyn oedd wedi ysgrifenu. Hyny a wnaeth yntau, ond yn dra gwylaidd. Ar y terfyn, meddai yr hen weinidog wrtho: "Mi a welais lawer o ladron yn dyfod i Langeitho erioed, ond ni welais yr un lleidr i'w gystadlu â thi."

Wedi bod am bum' mlynedd yn Cefn Pencoed, aeth i wasanaethu ar fferm o'r enw Cae Hir; a chwedi aros yno flwyddyn, cyflogodd i fod yn ben gwas yn Coed-cae-du, gydag un John Pritchard. Y John Pritchard hwn oedd tad y Parch. Richard Jones, y Wern. Yr oedd erbyn hyn wedi tyfu yn dal a chryf; safai mor syth a saeth, ac nid llawer a fedrent ymgystadlu ag ef mewn nerth. A oedd hyn yn peri fod rhyw gymaint o goegni yn ei ymddangosiad, nis gwyddom. Ond ffurfiodd Daniel Rowland ryw syniad am dano ei fod yn falch. Pan y pwyntiwyd ef allan iddo fel un oedd yn debyg o ddyfod yn bregethwr, meddai Rowland: "Pregethwr! Pregethwr! Ni wnaiff bregethwr byth, oni chaiff dro ar ei gyflwr." Ond gorfu i'r Diwygiwr newid ei farn am dano ar ol hyn. Tra yn Coed-cae-du, ymroddodd i ddarllen; prynai ganwyllau, ac eisteddai i fynu hyd ddyfnder nos uwch ben ei lyfrau, yn arbenig y Beibl. Beiai ei frawd John ef, a dywedai ei fod yn sicr o niweidio ei iechyd; ond ateb Robert ydoedd: "Yr wyf yn cael y fath flas ar Air Duw, fel na fedraf yn fy myw roddi heibio." Yr adeg yma, gafaelodd afiechyd difrifol ynddo. Dechreuodd yn fath o beswch dygn a phoenus. Ond yr oedd ei feistres yn ddynes nodedig o dirion, ac yn dra chydnabyddus â llysieuaeth, a meddyginiaeth ; a thrwy gymorth dail llwyddodd i glirio y peswch i ffwrdd. Ond wedi cael ei yru o'r ysgyfaint, ciliodd yr afiechyd i'w aelodau, a throdd yn gryd cymalau arno. Bu mewn poenau dirfawr am naw wythnos; nyddid ei gorph gan y gwynegon, ac ychydig a fedrai y meddygon wneyd iddo. Pan y cafodd godi wedi gwella ychydig, yr oedd golwg ryfedd arno. Yr oedd ei holl gymalau fel pe byddent wedi myned o'u lle; ei gorph oedd yn grwca, ac yntau dair modfedd yn fyrach na chynt. Gan ryw ŵr ieuanc o feddyg, genedigol o ardal