grym ei areithyddiaeth yn gyfangwbl dan lywodraeth; y bradychai weithiau ddiffyg chwaeth; y byddai ei ffugrau yn annaturiol, ac y defnyddiau eiriau yn tueddu at fod yn arw a chlogyrnog. Nis gallai fod yn wahanol. Ond nid hir y bu cyn i natur, ac yn arbenig Yspryd Duw, ei ddysgu yn amgenach. Ysgydwodd ymaith oddiwrtho bob anghoethder; daeth yn fedrus yn y defnydd a wnelai o gyffelybiaethau; ac yr oedd ei weinidogaeth rymus yn dylanwadu nid yn unig ar yr anwybodus a'r anniwylliedig, ond hefyd ar y profiadol a'r meddylgar. Ychwanega Richard Jones, y Wern: "Yr Arglwydd a'i harweiniodd ef o amgylch, ac a barodd iddo ddeall, profiad Cristion, a phrofiad eglwys, a phrofiad ysprydol gweinidog yr efengyl, mewn yspaid ychydig amser, yn well nag ugeiniau sydd yn treulio eu hoes yn mhrif frasder ysgolion penaf y ddaear." Yr hyn a gyrhaedda yr areithwyr trwy ymdrech ac astudiaeth galed a a wnelai Robert Roberts fel pe yn reddfol; natur oedd ei athraw, a than ei hyfforddiad hi dringai uchelderau penaf areithyddiaeth yn ddiberygl. Ar yr un pryd, yr oedd yn rhy synwyrol i ddiystyru dysgeidiaeth; dywed ei fywgraffwyr ei fod yn nodedig am ddyrchafu addysg, a mynych y cwynai ei golled oblegyd na chafodd fanteision dysg yn moreu ei oes.
Marwaidd oedd yr achos yn Clynog pan y symudodd efe yno. Yr oedd y seiat yn un o'r rhai hynaf yn Sir Gaernarfon, ac yr oedd y crefyddwyr cyntaf yn nodedig am wresawgrwydd eu hyspryd; ond o herwydd rhyw resymau, ymdaenasai penwyni drosti, ac ychydig o fywyd a deimlid yn ei chyfarfodydd. I'r eglwys hon, bu dyfodiad Robert Roberts i'r lle fel bywyd o angau. Pregethai nid yn unig yn y capel, ond yn ngwahanol ranau yr ardal, a'r fath oedd y nerth oedd yn cydfyned a'r weinidogaeth, a'r arddeliad oedd ar ei genadwri, fel y llewygai dynion cryfion yn yr odfaeon. Ymunodd ugeiniau a'r eglwys, wedi eu hargyhoeddi a'u dwysbigo trwy ei offerynoliaeth ef. Eithr nid Clynog yn unig a gafodd y fraint o fwynhau ei weinidogaeth; teithiodd holl Gymru ar ei hyd lawer gwaith; yr oedd mor adnabyddus yn y Dê ag oedd yn y Gogledd, ac adwaenid ef ar lafar gwlad fel "Robin bach y North." Bu yn pregethu ddwywaith, a hyny am wythnosau yn olynol bob tro, i Gymry Llundain; ymwelai yn aml â threfydd Liverpool, Manchester, a Chaerlleon; ac yr oedd yn bresenol yn agoriad capel cyntaf y Methodistiaid yn Manchester ddiwedd y flwyddyn 1799. Trwy ystod yr amser hwn, llafuriai tan wendid dirfawr; braidd nad oedd ei haner yn y byd arall; gellid meddwl wrth ei weled yn esgyn i'r pwlpud ei fod yn fwy cyfaddas i fynwent nag i waith; ond gyda ei fod yn agor ei enau, derbyniai ryw nerth fel pe yn wyrthiol, ac yswatiai cynulleidfaoedd yn ei bresenoldeb. Ar lan yr lorddonen yr oedd yn byw; prin na feddylid ei fod hyd ei fferau yn ei dyfroedd ; ac o'r fan hono yr oedd tragywyddoldeb a'i drueni mewn un cyfeiriad, a'i ddedwyddwch mewn cyfeiriad arall, yn ymddangos yn glir gerbron ei olygon. Rhoddai hyn ddifrifwch annaearol yn ei genadwri; edrychai fel cenad o fyd arall. Darfu iddo daro Rowland, y tro cyntaf yr aeth ar daith i Langeitho, fel gŵr oedd yn sicr o ddyfod yn un o feistriaid y gynulleidfa. Er mwyn peidio gyru ofn arno, ymguddiasai Rowland allan o olwg trwy ystod y bregeth; ond ar y terfyn aeth ato, a sirioldeb yn llewyrchu ar ei wedd, i'w longyfarch; a chynghorodd ef i ofalu i beidio cymeryd y clod iddo ei hun, ond i roddi yr holl ogoniant i Dduw.
Y mae yn ddiau fod Robert Roberts yn bregethwr anghyffredin, ac mai ychydig o'i gyffelyb a welodd yr eglwys er dyddiau yr apostolion. Tybiwn mai efe a fu yn foddion, yn benaf, i effeithio yn Ngwynedd yr hyn a gyflawnodd Howell Harris yn y Dê, sef dychrynu annuwiolion, a darostwng y wlad i'r efengyl. Geilw Dr. Parry ef yn force ysprydol mawr, yn ysgubo trwy y wlad. Er eiddiled ei gorph, yr oedd rhyw awdurdod ofnadwy yn ei wedd. Meddai Ebenezer Richard, Tregaron, yr hwn yntau oedd yn un o'r "hoelion wyth," yn nghyfarfod y pregethwyr yn Nghymdeithasfa y Bala: "Nid yw yr awdurdod a feddai ein tadau genym ni. Y mae yn rhaid i ni gael cwnstabliaid i gadw rhywrai yn y dyrfa ar y maes mewn trefn; ond buasai un edrychiad o eiddo Roberts, Clynog, yn ddigon i rwymo'r dorf mewn difrifwch." Meddai y Parch. Robert Jones, gweinidog y Bedyddwyr yn LlanIlyfni: "Yr oedd yn ddarlunydd mor gywir, ac yn ddywedwr mor hyawdl, fel pan fyddai yn darlunio y farn fawr, y byddai rhai o'i wrandawyr yn meddwl eu bod gerbron yr orseddfainc. Byddai dynion yn fynych yn disgyn fel celaneddau meirwon ar lawr y capel dan ei weinidogaeth