Byddai llawer yn methu gwybod pa un ai ar y ddaear ai yn nhragywyddoldeb y byddent."
Adrodda y Parch. Robert Jones amryw bethau dyddorol am Robert Roberts. Un tro, pregethai yn ardal y Gwynfryn, Sir Feirionydd. Safai i bregethu yn "mhwlpud Ffowc," yr hwn a elwid felly am mai dyn o'r enw Ffowc a'i gwnaethai. Yr oedd torf fawr wedi ymgasglu, ac allan yn yr awyr agored y safent. Eithr daeth ystorm o wynt, yn gymysgedig â gwlaw mawr, fel yr oedd aros allan yn anmhosibl. Gyda bod y dymhestl yn dechreu, cododd Robert Roberts ei lygaid a'i ddwylaw tua'r nef, a llefodd: "O! fy Nuw, par hamdden am enyd fechan, i ddweyd a gwrando am dy Fab." Cyn pen pum' mynyd, yr oedd yr ystorm wedi dystewi, a'r awyr wedi clirio. Disgynodd syndod aruthrol ar bawb; torodd yn orfoledd ar rai cyn diwedd y bregeth, a pharodd argraff ddofn ar bawb oedd yn y lle mai "bys Duw oedd hyn." Fel engrhaifft o ddyhirod penaf y wlad yn cael eu hachub trwy ei offerynoliaeth, edrydd Mr. Jones yr hanes a ganlyn. Pregethai Robert Roberts unwaith yn Llanwyddelan, Sir Drefaldwyn. Yr oedd yno y pryd hyny, fel yn llawer rhan arall o Gymru, liaws o gampau ofer ac ynfyd yn cael eu cynal. Gosodent swyddog am flwyddyn i arolygu y cyfryw gampau, fel steward mewn rhedegfa geffylau yn awr. I'r odfa yr ydym yn cyfeirio ati, daeth swyddog y flwyddyn hono, Richard Bumford wrth ei enw, ai i wrando o gywreinrwydd, ynte i aflonyddu, ni wyddis. Argyhoeddwyd ef yn y fan. Gadawodd yr hen gwmpeini a'r holl oferedd am byth, a bu ei hunan yn bregethwr ffyddlawn am flynyddoedd lawer. Byddai geiriau Robert Roberts yn disgyn fel cawod o dân ar gydwybodau ei wrandawyr. Pan yn pregethu yn Manchester, yn y flwyddyn 1794, yr oedd rhyw ddwysder ofnadwy wedi ei feddianu, a bloeddiai: "O! bobl; ai rhaid oedd i mi ddyfod o Gymru yma i'ch gwneyd yn fwy addfed i dân uffern! Gyda y floedd cerddai y fath ddylanwad trwy y dyrfa, fel yr ofnent fod uffern yn ymagor i'w derbyn, a rhedent mewn dychryn gwyllt i chwilio an ryw loches i ddianc iddi. Adroddai dyn o ardal Clynog wrth y Parch. Robert Jones ei fod yn cofio Robert Roberts yn pregethu mewn tŷ yn y gymydogaeth, ac iddo gyfarch y gynulleidfa yn debyg i hyn: "Bobl anwyl! Y mae deg cannon ofnadwy o'ch blaen. Y mae yn rhaid i chwi eu gwynebu. Ac mor sicr bod rhaid eu gwynebu, y maent yn sicr o'ch difetha." Gyda hyn, yr oedd y gwrandawyr yn cael eu llethu gan fraw, a rhai yn llewygu gan ofn. Yna, bloeddiai, a thôn ei lais wedi ymdoddi i'r miwsig hyfrytaf: "Er mor ofnadwy a dychrynllyd yw y cannons, os ewch chwi i Galfaria, i gael stamp goch, chwi a'u pasiwch fel y gwynt." Pan yr oedd Christmas Evans yn gweinidogaethu yn Lleyn, ni fyddai un amser yn colli cyfleusira i glywed y seraph bregethwr o Glynog. Nid gormod dweyd mai dylanwad Robert Roberts a'i gwnaeth y peth y daeth; wrth wrando arno y cafodd afael ar ei ddawn arbenig ei hun. Felly y tystiolaethai ef ei hunan wrth Robert Jones, ac arferai ddweyd na clywodd nemawr erioed bregethwr mwy dylanwadol ac effeithiol.
Cadarnheir yr hyn a ddywed y Parch. Robert Jones am allu desgrifiadol diail Robert Roberts, gan yr hen flaenor sylwgar a ffraeth, Mr. David Jones, Dolau-bach. Dywed ei fod unwaith yn gwrando Robert Roberts yn pregethu yn Cilpill, palasdy bychan tua milltir islaw Llangeitho. Safai yn mhorch y tŷ, a'r gynulleidfa ar ei gyfer y tu allan. Darluniai y Barnwr yn dyfod y dydd diweddaf ar y cymylau; ac mor fyw a gorchfygol oedd y desgrifiad, fel y cododd Mr. Jones ei ben i fynu, gan ddysgwyl canfod yr Iesu ar y cwmwl, a gwnaeth yr holl gynulleidfa yn gyffelyb. Dyn pwyllog, anmharod i gymeryd ei gyffroi, oedd Mr. David Jones, a rhaid fod y nerth portreadol a barai iddo anghofio ei hun mor llwyr yn nodedig o gryf.
Y mae yn sicr fod holl anhebgorion pregethwr wedi cydgyfarfod yn Robert Roberts. Ond nis gellir cyfrif ar dir areithyddiaeth am y dylanwadau a fyddent yn cydfyned a'i weinidogaeth; nid nerth nwyd gyffrous, na chyffelybiaethau tarawiadol, na dylifiant o ymadroddion parablber, nac ysgogiadau dramayddol celfydd, a gynyrchent yr effeithiau gorchfygol a deimlid yn llawer o'i odfaeon; nis gellir rhoddi cyfrif am ei ddylanwad ond ar dir arddeliad dwyfol arbenig. Meddai y Parch. Richard Jones, y Wern: "Ond y peth mwyaf nodedig yn ei holl gymhwysderau i'r fath orchwyl pwysig a goruchel ydoedd, yr addurn dwyfol o'r nef; yr hwn ydoedd fel gwisgoedd llaesion Aaron, yn ei guddio o'i ben i'w draed, pa waeledd bynag a allai fod danynt. Yr oedd arogl