y pomgranadau, a sain y clychau aur, yn cyhoeddi ei sancteiddrwydd trwy holl Israel. Eithr y mae yn debyg na wisgwyd yr offeiriaid erioed a'r fath addurn ag y gwisgodd yr Arglwydd yr offeryn tlawd hwn, ac a'i cadwodd i lewyrchu yn dan baid yn ffurfafen yr eglwys nes gorphen ei dymhor, ac a'i cynhaliodd fel angel tanllyd i ehedeg yn nghanol y nef, gan gyhoeddi efengyl y deyrnas yn ei phurdeb a'i nerth. Ei lef a fyddai, ar amserau, negys taranau cryfion yn erbyn Babilon fawr, fel y tybiasid fod yr holl ferthyron, a'r saint o'r nef a'r ddaear yn adsain: Syrthiodd Babilon fawr; daeth awr ei barn hi, telwch iddi yn ddau ddyblyg.' Ac yn ddiau gwnaeth Duw ddefnydd rhyfedd o hono i fwrw i lawr lawer darn, ac i wneuthur rhwygiadau mawrion yn ei muriau, trwy holl Gymru, a pharthau o Loegr. Nid oedd yma na dysgeid iaeth na graddau i ymogoneddu ynddynt, nac unrhyw deitl o ddynol fri i ymddyrch afu ynddo, ond: 'Cleddyf yr Arglwydd a Gideon-ffon-dafl yn llaw bugail defaid, a Duw.... Byddai y fath gyflawnder ar amserau o arddeliad yn ymdywallt ar ei weinidogaeth, nes y byddai ei natur yn methu ymgynal dani, a'r bobl yn llefain wrth yr ugeiniau a'r canoedd fel pe buasai gleddyfau yn eu trywanu, a'u dagrau yn rhedeg fel ffrydiau. Dyma y weinidogaeth y bedyddiwyd Cymru â hi amryw flyn yddau, a bydd yn ysgafnach i drigolion Sodoma yn nydd y farn nag i'r sawl a'i gwrandawodd, ac a ymgaledodd yn ei herbyn."
Y mae y desgrifiad a rydd ei nai, y Parch. Michael Roberts, yn cydweddu yn hollol a'r darluniad blaenorol gan y Parch. Richard Jones, o'r Wern. Meddai: "Nid oeddwn i ond tua chwech neu saith oed pan y dechreuodd Robert Roberts bre gethu; ond yr wyf yn cofio peth am dano tua'r troion cyntaf y daeth i ardaloedd Llanllyfni, gan yr effeithiau a ddilynai ei athrawiaeth, a'r son am dano a fyddai mewn canlyniad. Gwrandawn inau arno gyda hyfrydwch neillduol, ac yn foreu iawn effeithiai ei weinidogaeth ar bob nwyd ynof, am a wn. Pan oeddwn o ddeg i ddeuddeg oed, canlynwn ef trwy y daith Sabbath, er na gwlaw na thywyllwch, ac ni theimlid oddiwrth y llafur i'r corph gan yr hyfrydwch a gai y meddwl. . . . Nis gallaf roddi desgrifiad o hono yn fyr yn well na hyn Yr oedd o dymher naturiol, siriol, a chyfeillgar iawn; ac eto gwrol llewaidd, a didderbyn wyneb. Nid oedd ei ddawn mewn gweddi yn gwmpasog a maith, ond yn hynod o fywiog a gwresog yn ei yspryd. A byddai yn uniongyrchol a'i afael yn ei neges, ac addewidion Duw trwy y Cyfryngwr, nes y byddai, debygaf, yn anmhosibl i neb o berchen anian ac yspryd gweddi, beidio cydweddïo ag ef yn y fan. . . . Am ei weinidogaeth gyhoeddus, y mae yn anhawdd rhoddi desgrifiad o honi. Meddyliais lawer gwaith, wrth glywed yr hen bobl yn son am yr enwog Mr. Rowland, o Langeitho, mai y tebycaf a glywais i erioed iddo, oedd Robert Roberts, yn ol ei radd. Astudiai ei destynau ar amrywiol ganghenau o athrawiaeth, a thynai addysgiadau oddiwrthynt i'r manylrwydd mwyaf, yn ol y manteision oedd ganddo, a llefarai yn gyffredin yn drefnus ar y materion y rhagfyfyriai arnynt yn olynol. Ond yr hynodrwydd mwyaf arno oedd bywiogrwydd tanllyd ei yspryd, yn y pethau, wrth eu traddodi; a'r arddeliad, a'r llewyrch, a'r tywalltiadau a ddisgynai arno ef a'i wrandawyr, a dull ei wynebpryd mor hollol briodol i'r araeth, nes y byddai yn anhawdd i neb fod heb ryw effeithiau arnynt, y pryd hwnw o leiaf. Gwelais y cynulleidfaoedd ddegau o weithiau yn wylo, fel nas gwelwn braidd wyneb sych. Os taranu bygythion a melldith y ddeddf uwchben ei throseddwyr a wnelai; taranau, mellt, a dychryn, megys wrth Sinai, a fyddai yno. Os cyhoeddi dyfnion bethau yr athrawiaeth, am ddirgelwch y Drindod, Person yr Emmanuel, y cyfamod hedd, a threfn yr iachawdwriaeth, llenwid yr enaid â syndod a gorfoledd. Os mewn hwyl nefolaidd yn datgan ac yn molianu am radlonrwydd y gras a ddatguddir yn yr efengyl, yn aml gwnelid y galon galed megys llyn dwfr. Byddai pechod yn bechod; cyflwr dyn yn druenus; y byd yn wagedd; Crist oll yn hawddgar; a byw yn dduwiol yn ddymunol yn ngolwg yr enaid wrth wrando arno. Ac nid yn aml y gwrandewais arno erioed heb alaru, wylo, a gradd o orfoledd; ac nis gwelais neb erioed a'r arddeliad mor gyson arno. Eto, byddai yntau yn cael odfaeon llawer caletach, a llai o dywalltiadau weithiau na'u gilydd."
Y mae darluniad arall o hono gan y [1] Parch. Michael Roberts ar gael. Cynhelid cyfarfod pregethu gan yr Annibynwyr
- ↑ Y Gwyddoniadur.