Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyr yn nhref Pwllheli, Hydref 20, 1836, bellach driugain mlynedd yn ol. Gwahoddwyd y gweinidogion oll boreu dranoeth i dy y diweddar David Williams, Ysw., Castelldeudraeth, yr hwn a breswyliai yn y dref ar y pryd. Yn eu mysg, gwahoddwyd y Parch. Michael Roberts. Yn ystod y gymdeithas ddyddorol a gafwyd, trodd Caledfryn at Mr. Roberts, a dywedodd "Rhoddwch i ni yn awr ddarluniad lled gyflawn a chryno am eich ewythr. Beth oedd ei brif hynodion? Yn mha le yr oedd cuddiad ei gryfder? A pha beth oedd yn peri yr effeithiau anarferol ar y cynulleidfaoedd, y clywsom oll gymaint am danynt, yn mhob pregeth a draddodai?" Difynwn ychydig o atebiad Mr. Michael Roberts: "Oran ei gymhwysderau i'r weinidogaeth, er ei fod o ran ei gorph yn egwan, eto yr oedd ei lais yn glir, a'i barabl yn groyw, a meddai ar gof rhagorol. Er na ddeallai nemawr am wir gelfyddgarwch ffugrau areithyddol, na rhesymeg, eto, medrai wneyd ei hun yn berffaith ddealladwy i bawb. Yr oedd ei ymadroddion fel ffrydiau tryloyw yn eu traddodiad, ei gyffelybiaethau yn briodol i'w hamcan, yn enwedig pan fyddai llewyrch oddi uchod ar y gwirioneddau, ac Yspryd y gras yn rhoddi ei sêl ar y cyfan. Yr oedd bywiogrwydd ac eofndra anarferol i'w ganfod yn nhrem ei wynebpryd. Yr oedd ei edrychiad difrifol yn gwbl ddirodres, ac yn codi disgwyliadau uchel yn meddyliau y dorf am ryw bethau teilwng o genadwri y cymod, a chynygiad o drugaredd rad i bechaduriaid euog. Nid ar hwyl yn unig y dibynai; dangosai arwyddion o drefn a chynllun ar bob amgylchiad; eto, anfynych y byddai heb yr hwyliau nefol. Yr oedd llawer o gyferbyniadau yn ei bregethau; meddai allu i ddwyn yr eithafion pellaf oddiwrth eu gilydd i gydgyfarfod yn naturiol iawn. Seiniai gloch alarwm mewn rhybudd cyffrous, a thorai i wylofain a dagrau gyda'r anadliad nesaf. Lluchiai fellt y gyfraith gyda gwreichion ysol ar gydwybodau dynion ar un mynyd, a thywalltai gawodydd graslawn efengyl iachawdwriaeth, mewn brawddegau cysylltiedig a'u gilydd yn ddidor. Yr oedd dull darlleniad ei destun yn wastad yn ergyd parotoawl i greu disgwyliad, ac yr oedd pertrwydd ei ragymadrodd yn cyflwyno boddhad arbenig. Yr oedd ganddo hefyd ddigon o yni, ymadferth, a thân byw, i weithio ei genadwri adref at bob calon. Yr oedd ymadroddion yr Ysgrythyr mor dwymn ar ei galon, ac mor hylithr ar ei dafod, gyda chyflawnder eu trysorfa, fel yr oeddynt yn newyddion oll ar ei gof, fel na byddai un ataliad na diffyg byth yn eu llefariad. Ac ni chai y gwrandawyr orphwys heb ei ddilyn yn mlaen hyd derfyn ei gadwyn o ymresymiadau, nes toddi y galon gallestr yn llyn dwfr."

Ceir amryw ddesgrifiadau o hono, ac o arddull ei weinidogaeth, a hyny gan bersonau tra gwahanol eu nodwedd. Y mae un desgrifiad i'w gael gan y Prif-fardd Dewi Wyn o Eifion, mewn marwnad iddo, a gyhoeddwyd yn Mlodau Arfon. Y mae yn sicr i Dewi, pan yn fachgenyn, wrando Robert Roberts lawer gwaith, oblegyd yr oedd yn ddeunaw mlwydd oed pan fu y pregethwr enwog farw, a phreswyliai heb fod yn nepell oddiwrtho. Hefyd, yr oedd Eifionydd am flynyddoedd lawer gwedi iddo huno yn gyflawn o adgofion am Robert Roberts; a rhaid fod Dewi Wyn yn clywed am dano, ac am ddylanwadau ei weinidogaeth, yn feunyddiol. Nid oedd y bardd ychwaith mewn perygl o organmol, ac o ddesgrifio mewn lliwiau rhy gryfion, oblegyd y mae yn gwbl hysbys, er mai ar bregethwyr y Methodistiaid y gwrandawai yn benaf, mai Bedyddiwr ydoedd o ran ei farn am ddull a deiliaid bedydd. Er mor rhagorol yw y farwnad, nis gallwn ddifynu ond penill neu ddau:—

Danfonodd Duw e'n genad wisgi,
Drwy ei odidog awdurdodi;
Tywalltodd olew'r Gair yn ffrydiau,
Fel gwin addfed i'w gyneddfau,
Arfogol dyner fugail doniol,
Gwnai ladd gormesiad lu grymusol;
Bu'n filwr càn, dros Grist ei ran,
O'i wirfodd dan arfau;
Y rhai erlidient ei wir aelodau,
Yn ddig erlynodd o'i gorlanau.
Yr Yspryd Glân fel fflam wresogol,
Oedd yn tanio ei enaid doniol,
I gadarnhau'r gwan dan yr iau
Ei ddoniau ymfyddinent,
Ei ymysgaroedd a esgorent
Ar dosturi a dwys dorent.

Doethaidd frawd, fe deithiodd Frydain
Gan daenu'r gwir ar dir y Dwyrain;
Ei ddigabl barabl oedd gwbl beraidd,
Fe enwog leisiai'n fwyn eglwysaidd ;
'E glyw'd ei dôn mewn gwlad a dinas,
A Duw'n ei arddel dan ei urddas;
Ymdeithiai'n glir, drwy'r Deaudir;
A bu'n hir ymboeni,
Arweinydd diwyd yn ddidewi,
I droi Gwynedd o'i drygioni.
At Grist arweiniodd y blinderog,
A'r trallodus o'r tir lleidiog;