Ar bawb 'r un modd, gwahoddiad rhodd,
Fe'u galwodd at Geli;
Anogai fudion i gyfodi
O'u gwlad farwol i'w glodfori.
Ei arfau yn y gloddfa greigiog.
I dori meini oedd dra miniog;
Ac i'w manwl iawn gymynu,
Yn ogoneddus ac i'w naddu;
Oedd ddewr i wneyd eu haddurniadau,
Er adeiladu'r da aelodau,
Gan fwrw i lawr, y cestyll mawr,
A'u dirfawr greulondeb.
Yn erbyn ymchwydd annuwioldeb,
Y bu'n taranu mewn taerineb ;
Gwneyd ffordd i Grist ddo'd mewn brenbiniaeth
A'i wir gleddyf i'w arglwyddiaeth.
Arweiniai'r gwan, o donog fan,
I'r lan drwy oleuni ;
Gan droi ei wyneb o drueni
Ac o waelodion dwfn galedi."
Cafodd y darlun a gynygiwn yn nesaf ei dynu gan bwyntil medrus Eben Fardd, mewn ysgrif yn Y Tracthodydd. Ni feddai Eben gydnabyddiaeth bersonol a'r pregethwr hyawdl; yn wir, nid oedd ond baban tri mis oed pan fu Robert Roberts farw; ond yr oedd yn fredor o fredor o Eifionydd, lle y bu gŵr Duw yn preswylio am amryw flynyddoedd, a lle yr ymagorodd ei dalent; a threuliodd y ddau y rhan olaf o'u hoes yn Nghlynog. Felly, yr cedd enw Robert Roberts yn air teuluaidd i'r bardd er dyddiau ei faboed, a chafodd gyfleustra i ymddiddan â llawer a'i cofient yn dda, ac a wyddent trwy brofiad am nerth ei bregethu, a'r arddeliad a fyddai yn cydfyned.
Wedi galw sylw at rai o'i nodweddion, megys ecndra a bywiogrwydd yspryd a wynebpryd; llais clir, treiddgar, ystwyth, uchel, a thra pheroriaethol; parabl croyw, yr hyn a barai fod pob gair a sillaf yn hyglyw i'r gynulleidfa; cof cryf a dosparthus; yn nghyd â llawer o ddeheurwydd naturiol at resymiaeth ac areithyddiaeth, meddai Eben: "Edrychwn bellach pa lun sydd arno genym erbyn hyn. Gosodwn ef yn y pwlpud yn weithiwr amaethyddol, gwargrwm, bychan; ond eto yn ei wynebpryd a'i edrychiad yn amlygu cyneddfau deallol o raddau uwchafol a dysgybledig. Dychymygwn ei glywed yn adrodd ei destun mewn modd syml, difrifol, a tharawiadol. Yna, yn pregethu yn fywiog, hylithr, ac awdurdodol, gyda llais uchel, hyfryd, a pherseiniol; heb amlygu dim dyryswch na thywyllni yn ei amgyffredion, annybendod nac anhawsder yn ei draethiad, na gorthrech nac anneheurwydd yn ei ddeall a'i resymiad; ond yn dyfod trwy y cwbl yn lled foddhaol i deimladau a syniadau y gwrandawyr. Ymddengys i ni fod yr hyn a driniwyd eisioes o'i nodweddiad yn cyfiawnhau darluniad tebyg i hyn o hono, ac y mae hyn yn gwneyd i fynu bregethwr gwych. . . .
"Ond efallai fod ein darllenwyr ieuainc, aiddgar, brwdfrydig, a dychymygfawr, yn barod i ofyn bellach gyda gradd o siomedigaeth Ai dyma y fath un oedd Robert Roberts, o Glynog? Os felly, nid yw o gwbl y cyfryw un ag y dychymygwn ni ei fod, oblegyd y mae genym ddigon o Robertsiaid eto, yn yr oes hon, o'r fath ag a ddarluniwyd uchod.' Gwir, y mae digon yn yr oes hon yn gyfartal iddo yn y pethau a nodwyd hyd yma, ac yn mhell uwchlaw iddo mewn llawer o honynt; ond rhaid cedd i ni lunio corph ei nodweddiad cyn rhoddi yn ei ffroenau yr anadl einioes a'i gwnai yn enaid byw o bregethwr. A dyma ni yn bresenol yn myned at neillduolion y nodweddiad. Gwahaniaethid ei nodweddiad yn neillduol trwy y pethau canlynol.
"1. Carueiddrwydd tymher. . . . Darlunia ei holl hen gydnabod ef yn un-air fel yn nodedig o agos a chyfeillgar, heb ddim yn sarug, na thrahaus, nac anhynaws ynddo. Fel eglurhad ar hyn, coffawn y son tra-hoffus sydd yn mhlith ei frodyr crefyddol am dano hyd heddyw, gyda golwg ar ei ddull llwyddianus o rybuddio a cheryddu yn bersonol a chyfrinachol. Pan welai frawd yn amlygu dirywiad tufewnol trwy ryw agwedd ysgafn a gwamal, neu wisgiad coegfalch ac anweddaidd; neu, os byddai wedi dyfod i wybodaeth am ryw ymddygiad neu arferiad annheilwng arall yn neb o'i frodyr; pan gyfarfyddai â hwynt, defnyddiai y cyfleustra, a rhoddai y cyfarchiad arferol i goffa iddynt eu camymddygiadau, neu eu camagweddau; ac mewn dull prysur, siriol, enillgar, ond gwir ddifrifol, cynghorai hwynt gyda'r serchawgrwydd mwyaf, gan wasgu eu dwylaw, a dywedyd yn ddystaw a charuaidd Frawd bach! mae dy agwedd er's ychydig yn hytrach yn fwy gwamal nag y gweddai i Gristion. Neu: Anwyl frawd! y mae y gwisgiad yma yn rhy goegfalch, ac anghydweddol à symlrwydd Cristionogol,' &c., neu ryw anerchiadau a geiriau cyffelyb. A byddai y cyfryw gerydd neu rybudd bob amser, yn ddieithriad, yn effeithio yn ddymunol er diwygiad, heb gynyrchu unrhyw deimladau o wrthnysigrwydd ac oerfelgarwch.
2. Brwdfrydedd a gwresawgrwydd yspryd a theimlad. Hwyrach fod hon yn nwyd beryglus i raddau, pan y golygom hi