Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ei phen ei hun, neu mewn cysylltiad â nwydau a theimladau eraill o ansawdd anghoethedig, neu o ansawdd gwanaidd a musgrell. Yn yr amgylchiad cyntaf, byddai fel eirias o dân mewn tŷ gwag, yn treulio ei hun i ddim dyben, ac ar yr un pryd mewn perygl i roddi y tŷ ar dân; yn ei chysylltiad à nwydau dirywiol ac anghoeth edig, arweiniai i ryfyg cyhoeddus a di ddarbodus; ac yn ei chysylltiad â nwydau gwanaidd a musgrell, arweiniai i ben boethni ynfyd. Ond pan yn ffurfio rhan o gyfundrefn o nwydau bywiog, nerthol, a sancteiddiedig, y mae yn ardderchogi y nodweddiad, ac yn mwyhau y defnyddioldeb i raddau anghyffredin. Lled awgrymir yn ei gofiant ddarfod i'r nwyd hon fygwth gweithredu yn annymunol ynddo yntau unwaith, . . . ond yn ffurfiad dilynol ei nodweddiad, rheoleiddiwyd y nwyd hon gan foneddigeiddrwydd y ddoethineb sydd oddi uchod, nes ei dwyn i fod yn un o'r elfenau mwyaf grymus a bywiog yn ei boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb rhyfeddol. Mwydolrwydd ei enaid a'i feddwl yn sylwedd ei bregethau. Byddai wedi ei saturatio, wedi ei drylenwi mor berffaith â mater a sylwedd ei bregethau, nes y byddai, mewn ffordd ddynol o lefaru, ar gyffyrddiad llais yr Hollalluog, yn cael ei wasgu fel yspwng llawn o ddwfr i ddyferu, ïe, i gawodi, ar y gynulleidfa, yr hyn a orlenwai ei enaid ef ei hun, nes eu gorlenwi hwythau a'r cyffelyb hylif nefol, a gwneyd yr holl eglwys. ymgynulledig yn fath o galvanic battery ysprydol, i roddi ergyd dychrynllyd i lygredd a phechod, ac adfywiad iachaol i'r anian newydd; yr effaith fyddai ar yr un pryd yn arswydus a gorfoleddus. Bywiogrwydd ac enynolrwydd ei nwydau a'i deimladau. Teimlai yn ddwys, yn fywiol, yn danbaid, ac yn ang erddol, ddyledus bwysigrwydd a maintioli yr hyn oll a ddeuai dan ei sylw. En ynid ef trwy fyfyrdodau a drychfeddyliau am bethau na welsai, ac na phrofasai erioed ond yn anmherffaith, nes yr ym ddangosai fel un yn eu teimlo yn wirioneddol mewn dyoddefiadau neu fwynderau sylweddol a phersonol, cyflawn a digyfrwng. Trwy hyn, yr oedd effaith ei ymddangosiad uwchben ei wrandawyr, a'i bregethiad tanllyd a llym, neu ynte effro a gorfoleddus, ar un llaw yn debyg i raddau i'r effaith a deimlid pe y deuai yspryd damnedig o uffern, mewn rhith corphorol, i ddarlunio i ni holl boenau arswydus Gehenna, a gwaeau tragywyddol, a melldith y ddeddf, gan amlygu, yr un pryd, yn ei agwedd ddirboenus, a'i lym-dremiad goruwchddaearol, y teimladau dirdynol a achosai ddyoddefiad y cyfryw boenau. Neu, ar y llaw arall, yn debyg i'r effaith a deimlid ar ddisgyniad yspryd gwynfydedig o'r drydedd nef, yr hwn a ymegniai i ddarlunio i ni ryfeddodau dedwydd, a llawenydd annhraethadwy a gogoneddus yr eglwys orfoleddus fry, yn nghyd â holl freintiau annirnadwy y gwaredigion, gan amlygu, yr un pryd, yn ei wedd ddysglaer, a'i ymfoddhad gwynfydedig a pherlewygol, sylweddolrwydd teimladwy yr hyn oll a geisiai ei ddarlunio. Ei alluoedd cyffroadol; a thrwy y rhai hyn yr oedd fel yr angel gynt, 'yn gwneuthur yn rhyfedd.' Cynorthwyid a mwyheid hyn yn ddirfawr gan rai, os nad y cwbl, o'r priodoliaethau rhagflaenorol. Trwy y rhai hyn, gweithiai ei hun i'r fath radd o gyffroad bywiog, ac ymarferai ddylanwadau cyffroadol ar eraill, gyda y fath effaith ag i gynyrchu golygfeydd nad yw braidd yn bosibl erbyn hyn eu darlunio i'r cyfryw fantais ag a roddai ddrycholwg, canolig o gywir a bywiog, o honynt i'r darllenydd. Ni bydd i ni ychwaith geisio eu darlunio, ond nodwn rai o'r dulliau trwy ba rai y gweithredent, a rhoddwn engrhaifft neu ddwy fel eglurhad. Y moddion a'r dulliau cyffroadol mwyaf arbenig o'i eiddo oeddynt yn

"(1) Edrychiad llym, deffrous, awdur dodol, a threiddgar.

"(2) Cyfarchiadau byrbwyll, brawychus, a difrifol, megys, Bobol! Bobol!

(3) Ystymiau corphorol, amlygiadol o ansawdd a sylwedd yr hyn a draethai.

(4) Dysbeidiau (pauses) disymwth ac annysgwyliadwy yn nghanol traethiad gwresoglym a thanbeidiol.

(5) Heblaw y dulliau a'r moddion cyffroadol a nodwyd, gellid hefyd crybwyll 'wylo,' oblegyd yn hyn yr oedd yn dra nodedig. Dywedai un o'i wrandawyr, yr hwn hefyd oedd yn hen gymydog iddo, ei fod unwaith yn gwrando arno, a bod dagrau o lygaid Robert Roberts yn disgyn ar ei wyneb fel pe buasid yn chwistrellu dwfr ato! Nis gwyddom pa un a ydyw y darluniad hwn yn rhy gryf ai peidio; ond tybiwn ei fod, a chyfrifwn ef yn hytrach yn orwireb; dengys felly yn llawn cystal fod y neillduolrwydd o wylo yn perthyn iddo. Nodwn, bellach, engrhaifft neu ddwy o'i ymarferiadau dylanwadol ar ei wrandawyr. Weithiau, byddai darlleniad