Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei destun yn unig yn peri effeithiau rhyfeddol. Yr ydym yn hysbys, trwy ffafr un oedd yn gwrando ar y pryd, am un tro y darllenai yn destun y geiriau canlynol: 'Brasâ galon y bobl hyn,' &c. Darllenai hwy gyda'r fath gyffroad, ac mewn dull mor danllyd ac effro, ag a wnelai i'w wrandawyr deimlo yn y fan y fath iasau o fraw a dychryn, ag a barai i'w calonau ddirgrynu o'u mewn. Dro arall, darllenai y geiriau hyn yn destun Mawr yw dirgelwch duwioldeb, Duw a ymddangosodd yn y cnawd. Yn ebrwydd, anerchai ei wrandawyr mewn dull tra chyffrous, gan waeddi allan: Bobol! Bobol! Bobol! Dyma for heb waelod iddo; trwy gymhorth Duw, myfi a anturiaf i'w gwr. Deliwch eich gafael arnaf, bobl!' yr hyn a effeithiai gynhwrf brawychus trwy yr holl gynulleidfa. Adroddir am dano yn pregethu amser arall yn ei ddull bywiog, llym, a thanbaid; pan yn nghanol ei hyawdledd cyffrous y gogwyddai ei ben yn ddisymwth yn lled isel, ac arosai yn yr agwedd hono am enyd bach heb ddweyd un gair. Yna, cododd ei ben, a gwaedd odd dair gwaith: 'Ust! Ust! Ust! Pa beth yw y swn a glywaf?' Ar hyn, bloeddiai yn uchel a tharanllyd: 'Ar yr annuwiolion y gwlawia efe faglau tân a brwmstan,' &c., nes dryllio yr holl gynulleidfa. Dro arall, darluniai Jonah yn cael ei daflu i'r môr, a'r morfil yn ei lyncu, ac yn trywanu gydag ef trwy y dyfnder, nes yr oedd y dyfroedd yn frigwyn, gan waeddi yn ei agwedd 'Cliriwch y ffordd i fessenger y Brenhin a Jonah oddifewn yn llefain, Teml! Teml! Teml!' Ei ddull nefolaidd a thyner, a'i lais peraidd, lleddf, a thoddedig, yn ail adrodd y gair Teml," a barai effaith nodedig o gyffrous a hyfrydlawn."

Eithr nid yw y Prif-fardd o Glynog yn teimlo fod ei ddarlun yn gyflawn eto; gwel nas gall y cydgyfarfyddiad mwyaf o ddoniau areithyddol naturiol, roddi cyfrif am y dylanwadau a deimlid yn odfaeon Robert Roberts; ac felly, brysia i nodi elfen arall, a'r bwysicaf oil, sef y dylanwadau goruwchnaturiol a fyddent yn cyd fyned a'i weinidogaeth. Fel hyn y dywed ar y pen hwn: "Ni byddai ef byth yn foddlawn yn y pwlpud os na fyddai ei bregeth yn eglurhad yr Yspryd a nerth.' Pan na byddai arwyddion fod ei ymresymiadau yn gafaelu yn nghydwybodau ei wrandawyr, mynych, meddir wrthym, y gwelwyd ef yn sefyll 'fel gŵr wedi synu,' yn nghanol ei bregeth; ac yna, gan ddyrchafu ei lygaid tua'r nef, tra y byddai deigryn ar ol deigryn yn ffrydio dros ei rudd, rhoddai floedd ddifrifol: O Arglwydd difa y llen! difa y llen!' nes y byddai y bobl yn gollwng eu Hamen allan yn un fanllef soniarus, fel yn ddiarwybod iddynt eu hunain. Yna y pregethwr a ail gychwynai ar ei fater, gyda gwedd siriol, wrol, a bywiog, megys un wedi dadebru ar ol lludded blin; wedi cael gallu gyda Duw,' yr oedd yn hawdd iddo wedi hyny gael awdurdod ar y dyrfa; ac felly, byddai y bregeth, wedi dechreu yn drymaidd, yn diweddu yn hynod effeithiol. Gwelid rhai gwrandawyr yn llewygu, eraill yn molianu, a phawb yn wylo; rhai yn gwaeddi am drugaredd, eraill yn diolch am ei chael, a Robert Roberts ei hun, wedi ei orchfygu gan nerthoedd tragywyddoldeb, yn gorfod ail weddïo: 'O Arglwydd! atal! atal! cau dipyn ar y curtain, onide ddaliwn ni ddim !'" "Cyn terfynu ar hyn," meddai Eben Fardd yn yr un ysgrif, "rhoddwn un hanes allan o lawer am effeithiau ei weinidogaeth. Yr oedd gan amaethwr crefyddol a chyfrifol yn Môn ddyn ieuanc yn ben llafurwr, o'r hwn yr oedd yn dra hoff. Yr oedd y gwas yn un o dymher garuaidd a bywiog, ond nid oedd yn gwybod dim am ddylanwad crefydd ar ei feddyliau. Un prydnhawn, pan yr oedd y gwas yn myned at ei feistr i ymgynghori am ryw beth yn nghylch ei orchwyl, efe a gafodd ei feistr yn parotoi i fyned oddi cartref, ac efe a ofynodd iddo: A ydych yn myned yn mhell, meistr?' 'Yr wyf yn myned i Lanerchymedd, Wil, i wrando ar wr dyeithr,' oedd yr ateb. 'Dear me, mor bell a hyny heno,' ebai Wil—yr oedd o wyth i ddeg milltir—'rhaid mai pregethwr hynod ydyw.' 'O, ïe! Robert Roberts, o Glynog, ydyw, pregethwr heb ei fath; y mae ei eiriau yn glynu yn nghalon dyn, Wil; a ddeui di yno? Ti a gei ddyfod gyda mi, os myni.' 'Na, yn wir, meddai y gwas, 'y mae hyny yn ormod o ffordd genyfi fyned i wrando dim ond un bregeth.' Ymaith a'r amaethwr tua Llanerchymedd, a Wil yntau a aeth i'r ysgubor i ddyrnu. Ond rywfodd, er cystal gweithiwr ydoedd, yr oedd yn methu myned yn mlaen gyda ei waith yn rhwydd y tro hwn. Er swn y ffust, tybiai ei fod yn clywed yn uwch lais ei feistr yn ei glustiau: Y mae ei eiriau yn glynu yn nghalon dyn, Wil!' nes yr oedd yn teimlo ei freichiau yn