Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y seithfed, go debyg; ond ar y nawfed, dacw y ffordd wedi ei hagor: GORPHENWYD! Yn awr, y mae rhyddid i ninau i fyned ar ei ol; ac os collasom y frwydr yn Mharadwys, cawsom hi yn Lle y Benglog!"

"Mi fum i, am ysbaid o amser, yn clywed y gair iachawdwriaeth' fel rhyw rigwm gan y Methodistiaid. Ond daethum i amgylchiadau o ran fy mhrofiad gwedi hyny, ac y mae 'iachawdwriaeth rad i mi y gair melusaf a glywais erioed. Iachawdwriaeth rad! Diolch yn dragywydd am dani." Y mae amryw lythyrau o'i eiddo ar gael, a gwelir ynddynt yr un athrylith fyw ag sydd yn ei bregethau. Buasai yn hyfryd genym eu croniclo oll, ond rhaid ymfoddloni ar un, sef y llythyr a ysgrifenwyd ganddo, flwyddyn cyn ei farw, at Mr. Charles, o'r Bala. Yr oedd Robert Roberts ei hun ar y pryd mewn gwaeledd dirfawr, a Mr. Charles newydd fod dan law y meddyg, yn cael ei fawd i ffwrdd.

Clynog, Chwef. 14, 1801.

Anwyl frawd, Pan dderbyniais y llythyr a ysgrifenodd eich anwyl briod ataf, yn rhoddi i mi ychydig hanes am danoch newydd fod dan law y meddyg, ac am ddaioni Duw tuag atoch yn y cyfamser cyfyng, meddyliais yn sicr y buaswn wedi dyfod i ymweled a chwi cyn hyn. Ond nid eiddo dyn ei ffordd; nid ar law gŵr a rodia y mae llywodraethu ei gerddediad. Oddiwrth yr Arglwydd y mae cerddediad gwr. Yn lle dyfod i'r Bala, i ymweled a'm hanwyl gyfaill, fe'm trowyd i ysgol cystudd, lle yr ydwyf bellach er ys chwech wythnos. Gwnaeth yr athraw chwerw yr ydwyf dano yn bresenol i mi fyned dros lawer o'm hen wersi, megys credu, edifarhau, hunanymwadu, caru Duw, a'i anwyl bobl, &c. Wrth edrych ar y gwersi hyn o bell, yr oeddwn yn barod i feddwl fy mod yn ddigon o feistr arnynt oll; ond erbyn dynesu atynt, a dyfod i afael â hwynt, yr wyf yn cael fy hun yn greadur tlawd i'w ryfeddu; yn methu credu ond yn wan iawn, fy nghariad yn oerllyd, a'm calon yn galed, ac yn methu ymwadu à mi fy hun yn aml fel y gweddai i mi.

"Yn ngwyneb yr holl falldod hyn ag ydwyf yn weled ynof fy hun, yr ydwyf yn cywilyddio, yn ffieiddio fy hun, ac yn ymofidio uwchben fy nghyflwr tlawd. Ni welaf un lle i mi, waeledd annheilwng, ymgysuro, ond yn unig yn y Cyfryngwr mawr. Gan fod lle i bechadur ddyfod yn mlaen yn ngwyneb Cyfryngwr digonol, yr ydwyf finau yn cael bywyd yn y ffordd fendigedig hon. O! mor felus yw y gair ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid.' Pan y byddwyf yn cael ychydig o gymhorth i ymdreiglo yma, yn ngwyneb fy methiant yn y cwbl, yr ydwyf yn gweled pob peth yn dyfod i'w le. Rhywbeth rhyfedd a gafwyd o du pechadur gwael yw'r Cyfryngwr mawr! Efe yw unig hyder fy enaid am fywyd tragywyddol. Y mae yn fwy cadernid i mi am achubiaeth fy enaid, fod Iesu Grist yn derbyn pechaduriaid, na phe clywn angelion a dynion yn cydfloeddio am ddyogelwch fy nghyflwr. Hwynthwy oll a allent gamfarnu; nid ydynt yn gymhwys farnwyr am fy nghyflwr; ni osodwyd mo honynt yn y swydd oruchel hon. Ond gan fod Iesu yn derbyn pechaduriaid, y mae yn anmhosibl i mi gamsynied, na chael fy siomi wrth fyned yn bechadur ato. Wrth guddio fy mhen euog dan aden yr Iesu anwyldiolch byth am dano!—yr wyf yn adnabod triniaeth Yspryd Duw ar fy enaid, yn fy nghymodi fwyfwy a threfn fawr yr iachawdwriaeth, ac a holl drefniadau Rhagluniaethol Duw tuag ataf.

"Ni bum i, o ran fy amgylchiadau, hyd yma, ond pererin trafferthus yn y byd gofidus hwn. Os cawn addoli ychydig, ac ymhyfrydu yn yr Arglwydd, megys a'm pwys ar ben fy ffon, yn ebrwydd fe fyddai yn bryd rhedeg i fugeilio rhywbeth yn yr anialwch. Ond byddaf yn meddwl weithiau y dyddiau hyn, fod fy holl gymalau aflunaidd agos a chael codwm i'r gwely ifori, sef trefn ogoneddus y Drindod i gadw pechadur colledig. A phan y byddaf yn cael ambell orweddfa yma, y mae holl dwrf rhagofalon am amgylchiadau, bywioliaeth, yn nghyd â chorph afiach, i gyd yn dystewi ac yn myned yn ddim. Yr ydwyf y pryd hwnw yn gweled pob peth yn union, ac yn ei iawn le. Yma y mae fy yspryd egwan yn cael ymgeledd, a phob gras megys yn ail darddu, blodeuo, a ffrwytho. Yn ngwyneb byw, yn ngwyneb marw, ac yn ngwyneb fy nghyflwr gwael fy hun, a chyflyrau gwael fy nghyd-bechaduriaid, golwg ar Iesu mawr yn unig, a threfn anfeidrol ryfedd yr iachawdwriaeth ynddo, sydd yn rhoddi bywyd a grym yn fy meddyliau. Y mae efe yn anfeidrol ddigonol yn ngwyneb y cwbl; yr wyf yn dawel yn ei law, ac yn llonyddu yn ei ofal am danaf, enaid a chorph.

"Yr wyf yn dechreu cryfhau o'r pwl