Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weinidogaeth, dywedai: "Nid yw fy mhregethau ond dim, dim, yn fy ngolwg yn awr. Rhyw air bach fel hwn, 'Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid,' a rhyw eiriau bychain cyffelyb iddo, sy'n bethau mawr gyda mi yn bresenol." Ychydig oriau cyn i'r diwedd ddyfod atolygai am i'w wraig fyned o'r ystafell : "Nis gelli di, E—— bach," ebe efe, "aros yn yr ystafell dros ychydig fynydau, o herwydd y mae'r cylymau yn awr yn myned i gael eu datod. Ond cyn i ti fyned y mae genyf hyn i'w ddweyd wrthyt: Yr wyf fi yn myned yn awr i wydd y DUWDOD noeth, heb na llen na chnawd rhyngwyf ag ef; ond yr wyf yn myned ato heb nag ofn na braw." Profiad gogoneddus! Fel hyn yr hunodd Robert Roberts, ac efe ond deugain mlwydd oed, Tachwedd 28, 1802, a chludwyd ef, yn nghanol dagrau canoedd, i fynwent Clynog, lle y gorphwysa oddiwrth ei lafur hyd foreu yr adgyfodiad. Mewn llawer o bethau, yn enwedig mewn dychymyg beiddgar, nerth dramayddol byw, a llais dylanwadol, yn nghyd â rhyw fflachiadau o'r byd ysprydol yn tywynu yn ddisymwth ar ei feddwl ef a'i wrandawyr, y mae yn amheus a welodd Cymru bregethwr cyfartal i Robert Roberts. Er fod dros bedwar ugain a deg o flynyddoedd er pan y rhoddwyd ef i orwedd yn y beddrod, ac er na pharhaodd ei weinidogaeth ond prin pymtheg mlynedd, y mae adsain ei floeddiadau rhyfedd i'w clywed yn Nghymru, yn arbenig yn Ngwynedd,hyd y dydd hwn.

Canwyd iddo amryw alarnadau; un gan Dewi Wyn o Eifion, ac un dra thyner gan ei frawd, y Parch. John Roberts, Llangwm; ond nid oes yr un yn gyfartal i eiddo yr hen fardd, Sion Lleyn, yr hwn a drigai yn Pen'rallt, ger Pwllheli, o'r hon y difynwn ychydig benillion:—

"Tan ei draed daeargryn ydoedd,
Wrth ei lais y duai'r nef,
Ai eilwaith yn ddysglaeredd goleu
Wrth ei sŵn soniarus ef.
Taran oedd ei weinidogaeth,
Mellt yn bloeddio, 'Wele ni,'
Tân yn enyn ac yn llosgi
Hen lochesau fu mewn bri.

Canwyll fawr, a llusern oleu,
Yn chwilio holl lochesau'r tŷ,
Ac awdurdod anorchfygol,
Rymus, gadarn, oddi fry;
Chwilio'r galon wag, ragrithiol,
Olrhain holl grefyddau'r cnawd,
Datguddio'n bod yn ngwyddfod Duwdod,
Yn dra diddym a thylawd.

Weithiau trwst taranau cryfion,
At arferion plant y llawr,
Nes bo torf yn gwyneb lasu
O flaen mellt y Beibl mawr;
Dull y farn oedd yn ei eiriau,
Barnwr wedi ymwisgo â llid,
Ei ysprydol ddarluniadau
Lyncai mewn y bobl i gyd.

Ef yn chwys, a'r dorf yn ddagrau,
A sŵn telynau yn ei lef;
Er taranau, bu trueiniaid,
Mewn gwên yn yfed gwin y nef;
Dilyn llwybr y dyoddefiadau,
Canfod athrawiaethau hedd,
Arlwyo'r bwrdd a threfnu'r seigiau,
Heb ddim yn eisiau yn y wledd.

Egwan gorph, gofidus, afiach,
Ga'dd Robert Roberts, mawr ei fri,
Gŵr ymladdodd yn y brwydrau,
Ac a nofiodd rym y lli';
Eglwys Crist oedd yn ei galon,
Ac yntau yn ei chalon hi,
Mewn cwlwm cadarn anorchfygol,
Yn y Gŵr fu ar Galfari.

Astudiwr mawr yr athrawiaethau,
Difein o ddoniau ydoedd ef,
Yn llewyrch gwaith y duwinyddion
Y gwelai fawr ddirgelion nef;
Agorwr teg ar y damegion,
Datodwr tynion glymau twyll,
Cadd o niwl y cudd yn oleu,
A'u trin y byddai trwy iawn bwyll.

Nid yn ysgol fwyn y Fenni,
Cambridge, na Rhydychen bell,
Trwy Iesu mawr, yr addfwyn Brophwyd,
Fe'i haddysgwyd yn fil gwell;
Dysgodd yn y peiriau poethion,
Faith ddirgelion teyrnas gras,
Yn ngwyneb iawn, a chyflawn daliad,
Fod pur faddeuant yn ei flas.

Telyn hardd a'i thanau'n dynion
Miwsig nefoedd oedd ei ddawn,
Tanau mawrion yr athrawiaeth,
A'i wir ddysgyblaeth ganddo'n llawn;
Ei sylfaen ydoedd dwyfol hanfod
Anfeidrol Fod, yn Drindod glân,
Un yw'r Hanfod anwahanol,
Ond yn bersonol mae gwahan.

****
Rhoed ei gorph yn meddrod Clynog,
Clyd odidog yw ei dy;
Melus iawn fydd hûn y gweithiwr,
Nes del cynhwrf oddi fry:
Galwad gwych yr udgorn hynod,
A rydd ollyngdod iddo o'r llaid,
Corph ac enaid yn anfarwol,
A'i foliant bythol yn ddibaid."