Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XXIV.
ROBERT JONES, RHOSLAN, A ROBERT DAFYDD, BRYNENGAN.

Maboed Robert Jones―Yn ddarllenwr mawr, ond yn ddigrefydd―Ei droedigaeth―Ei awyddfryd am lesoli ei gydwladwyr―Cerdded ar ei draed i ymweled a Madam Bevan―Hithau yn ei benodi yn ysgolfeistr―Cadw ysgol yn Nghapel Curig―Dechreu pregethu―Cadw ysgol yn Rhuddlan―Ffair Rhuddlan―Erlid Robert Jones―Ceisio pregethu yn Dyserth―Symud i Frynsiencyn, yn Mon―Cael ei yru oddiyno gan yr offeiriad―Cadw ysgol mewn amryw leoedd yn Eifionydd―Ei fedr i drin plant―Ymsefydlu yn Rhoslan—Cael ei yru ymaith oblegyd derbyn pregethu i'w dy―Symud i Tŷ-bwlcyn―Efe y cyntaf i bregethu yn Meddgelert, Abergynolwyn, a Dyffryn Ardudwy―Gwaredigaethau hynod―Ei lafur mawr gyda'r efengyl―Ei lafur llenyddol―Ei lythyr at y Cyfarfod Misol―Ei farwolaeth a'i angladd Robert Dafydd yn cael ei eni ger Beddgelert―Yn tyfu yn anwybodus ac yn ddigrefydd―Ei argyhoeddiad―Ei ymdrech i glywed pregethu―Yn symud i Frynengan, ac yn dechreu pregethu―Ei nodwedd fel pregethwr―Rhai odfaeon hynod a gafodd ―Ei gymhwysder arbenig at gadw seiat―Yn ddysgyblwr llym, eto yn dyner a doeth―Ei awyddfryd am weled diwygiad arall cyn marw―Yr Arglwydd yn gwrando ei weddi―Diwygiad 1831―Ei ddywediadau―Yn marw yn dawel yn ei gadair.

Y PREGETHWR cyntaf o unrhyw enwogrwydd perthynol i'r Methodistiaid, yn Eifionydd, oedd Robert Jones, Rhoslan; a daeth yn adnabyddus, nid yn unig fel "llefarwr" galluog, ond hefyd fel un medrus gyda ei bin ysgrifenu, yn gystal ac fel arweinydd doeth. Cafodd oes faith; parhaodd ei gysylltiad â Methodistiaeth dros dri-ugain mlynedd; bu yn llygad-dyst o'r dadleuon a fu yn cyffroi y Cyfundeb oddimewn, ac yn yn ddiau yn cymeryd rhan ynddynt ei hun; a gwelodd y corph hwn o grefyddwyr, ar ol bod yn wrthrych erledigaeth gwreng a boneddig, yn dyfod yn boblogaidd, ac yn anrhydeddus yn ngolwg y cyhoedd.

Ganwyd ef mewn lle o'r enw Sunter, yn mhlwyf Llanystymdwy, Sir Gaernarfon, yn y flwyddyn 1745. Felly yr oedd yn hŷn o ddwy-flwydd-ar-bymtheg na Robert Roberts, Clynog; ac nid oedd ond deng mlwydd yn ieuangach na Jones, Llangan, y gŵr a fendithiwyd i ddwyn Robert Roberts i wybodaeth o'r gwirionedd. Ychydig ysgolion oedd yn y wlad adeg mebyd Robert Jones; ni ystyrid y pryd hwnw fod addysg yn angenrheidiol i blant gweithiwr, a chwech wythnos o ysgol a gafodd yntau. Ei ysgolfeistr oedd un Thomas Gough, yr hwn oedd yn ŵr crefyddol, ac heblaw dysgu ei ysgoleigion i ddarllen, a arferai eu hyfforddi yn Nghatecism y Parch. Griffith Jones. Yr oedd gan y llanc Robert hefyd fam dda, yr hon oedd yn hoff o'i Beibl, ac yn darllen llawer arno, yn gystal ac ar y Llyfr Gweddi Cyffredin. Ei hoff waith oedd hyfforddi ei mab yn Ngair y gwirionedd, eithr pan nad oedd efe ond un-ar-ddeg oed bu ei fam farw, er mawr alar a cholled iddo. Modd bynag, yr oedd gwanc darllen wedi ei ddeffro yn Robert. Darllenai bob llyfr y medrai ddyfod o hyd iddo; a siarad yn gymhariaethol, braidd nad oedd fel y behemoth, a dynai yr lorddonen i'w safn. Darllenai hyd ganol nos, a darllenai bryd bwyd; yr oedd wedi llunio offeryn hylaw i ddal y llyfr gerbron ei lygaid wrth fwyta, fel na chollai ddim amser. Yr oedd llanc darllengar yn rhywbeth hynod yr adeg hono; braidd na edrychid ar ymwneyd â llyfrau fel pen y ffordd i wallgofrwydd; ac wrth ei weled yn syllu ar ei lyfr wrth fwyta ei giniaw, rhoddodd hen wraig a ddaethai i'r tŷ ollyngdod i'w theimlad trwy ddweyd: "Ymgroesa, Robert! Oni wyddost ti mai trwy ddarllen wrth fwyta yr aeth hwn-a-hwn o'i gof?" Canlyniad yr holl ymwneyd hyn â llyfrau oedd i Robert Jones ddyfod yn ddyn gwybodus tuhwnt i'r cyffredin; daeth yn hanesydd gwych, yn fardd da,