Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn gydnabyddus â phrif ganghenau dysgeidiaeth.

Eithr nid oedd yn grefyddol, nac yn tueddu at grefydd. Nid ydym yn cael ddarfod iddo ymollwng i anfoesoldeb, na syrthio i bechodau rhyfygus ac ysgeler; ond yr oedd yn well ganddo gwmni oferwyr na chymdeithas y saint, ac y mae yn ymddangos ei fod yn un o'r rhai a wawdient y Methodistiaid. Modd bynag, daeth Lewis Evan, Llanllugan, ar daith trwy y wlad, a rhywun gydag ef nas gwyddom ei enw Aeth Robert Jones i'r odfa. Yr oedd Lewis Evan yn gwbl amddifad o brydferthion areithyddiaeth; yr oedd yn arw a gwladaidd ei eiriau, ac yn dra annaturiol yn ei ystymiau. Caffai y llanc digrefydd bleser mawr wrth wrando a syllu, a bwriadai ddynwared y pregethwr i'w gyfoedion annuwiol yn ol llaw. Ond pan gyfododd y pregethwr arall bu raid iddo wrando; cydiodd y gwirionedd gydag awdurdod yn ei feddwl; dychrynfeydd tragywyddoldeb a ymaflasant ynddo, ac aeth allan o'r cyfarfod yn ddyn arall. Yn lle brysio at y cwmni llawen, i ddynwared y pregethwyr mewn gwawd, aeth ar ei union i seiat Brynengan, yr unig seiat Fethodistaidd yn y rhan hono o'r wlad, a chyflwynodd ei hun yno i bobl yr Arglwydd. Dyfnhawyd ei argyhoeddiad, ac eangwyd ei wybodaeth grefyddol, trwy ddarllen Catecism Griffith Jones.

Yn saer coed y cawsai ei ddwyn i fynu; eithr wedi ei argyhoeddi cyfododd awydd angerddol arno am weled llanciau ieuainc a phlant yr ardal yn cael breintiau addysgol. Ni welai obaith am i neb yn y Gogledd gyfryngu i ddwyn hyn oddiamgylch; eithr tybiodd y gallai Madam Bevan, yr hon yn awr a gariai yn mlaen drefniant addysgol y diweddar Griffith Jones, dosturio wrth gyflwr truenus yr ardal. Penderfynodd yr äi i Lacharn, yn mhen pellaf Sir Gaerfyrddin, lle y preswyliai Madam Bevan, ar ei draed. Yr oedd ganddo dros gan' milldir o ffordd i'w cherdded; rhaid iddo oedd croesi mynyddoedd cribog, a rhydio afonydd dyfnion, ac ni wyddai yntau gam o'r ffordd. Eithr ni lwfrhaodd ei galon ynddo gweddïai bob cam a gymerai. Ond pan gyrhaeddodd Lacharn, er ei fawr siomedigaeth, nid oedd y foneddiges gartref, a gorfu iddo ddychwelyd heb ddweyd ei neges. Ysgrifenodd deimladau ei galon, a'i awydd am weled ysgol yn cael ei sefydlu yn ei ardal, ar bapyr, a gadawodd ef yn y palas erbyn y dychwelai y perchenog.

Yr oedd wedi clywed llawer am Howell Harris, ac am y Sefydliad yn Nhrefecca, a phenderfynodd, gan ei fod o fewn cyffiniau y Deheudir, yr elai yno. Hyny a wnaeth, a chafodd ymddiddan â'r Diwygiwr.

Nid yw yn ymddangos i'r llythyr a adawodd Robert Jones yn mhalas Madam Bevan gael un sylw; felly penderfynodd gymeryd yr un daith yr ail dro. Rhaid fod ei asbri yn ddiderfyn, a'i wroldeb yn anhyblyg. Meddai Methodistiaeth Cymru: "Cofied y darllenydd mai llencyn ieuanc ydoedd, tua deunaw mlwydd oed; ac nad oedd un cyfeisteddfod o wŷr cyfrifol yn ei anfon, nac yn addaw talu iddo am ei amser, na'i draul; yn unig awyddfryd ei fynwes ei hun a'i cymhellai, oddiar ddymuniad cryf i leshau ei genedl a'i wlad, yn neillduol yn yr hyn a berthynai i'w heddwch tragywyddol." Trodd y daith hon allan yn fwy llwyddianus. Yr oedd y foneddiges gartref, a chafodd yntau gyfleustra i agor ei fynwes, a gosod yr holl achos ger ei bron. Nid oedd Madam Bevan yn dueddol i gydsynio â'r cais; cawsai lawer o flinder yn nglyn a'r ysgolion gwedi marw Griffith Jones; amryw o'r athrawon a fuasent yn anffyddlawn i'w hymddiriedaeth, ac yr oedd ar fedr rhoddi iddo nacâd hollol. Ond o herwydd ei daerineb, a'i bod yn gweled rhywbeth i gynyrchu ymddiried ynddo yn y dyn ieuanc, dywedodd: "Os ewch i gadw yr ysgol eich hun, chwi a'i cewch." Cydsyniodd yntau ar unwaith, er na fwriadai fyned yn ysgolfeistr yn flaenorol.

Yn Capel Curig, lle mynyddig rhwng Bangor a Bettws-y-Coed, y dechreuodd gadw ysgol. Ac, fel llawer o ysgolfeistri yr oes hono, nid hir y bu cyn dechreu pregethu. Arferai egwyddori y plant mewn pethau crefyddol; darllenai y Beibl a gweddïai yn yr ysgol gyda chysondeb; ac nid oedd y cam yn fawr o hyn i ddweyd gair wrth bechaduriaid wedi tyfu i fynu. Yr achlysur a barodd iddo gymeryd y cam hwn ar y cyntaf oedd a ganlyn: Cyhoeddasid rhyw ŵr dyeithr i bregethu mewn tŷ anedd yn Nghapel Curig. Ymgasglodd y gwrandawyr, a Robert Jones yn eu mysg, ond ni ddaeth y pregethwr; ac fel na ollyngid y bobl ymaith ar eu cythlwng cymhellwyd yr ysgolfeistr i roddi gair o gynghor iddynt. Hyny a wnaeth yntau, a dyma ef yn bregethwr, a phregethwr a fu hyd ddiwedd ei oes. Nid yw yn ymddangos fod Cyfarfod Misol wedi cael ei sefydlu yn Sir Gaernarfon ar y pryd; felly