Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Beth y mae yn ei ddweyd?" gofynai rhai.

"Dweyd y mae," atebai rhywun, "ei fod yn myned i ddarllen i ni ran o Air Duw."

"Ho!" ebent hwythau, gan ddysgwyl difyrwch mawr dros ben.

Aeth y pregethwr rhagddo. Tra yr elai yn mlaen dylifai dynion i'r tŷ, a chwilient am le i eistedd. Eisteddodd rhai ar y dresser; ac un o honynt, yn anffodus, a gyffyrddodd â'i benelin a'r llestri pridd oedd y tu cefn iddo, nes taflu rhai o honynt i'r llawr, a'u dryllio yn ddarnau. Parodd hyn gryn dwrw a chyffro. Wrth weled ei llestri yn myned yn ganddryll gwylltiodd yr hen ferch; gafaelodd yn nghogail y droell fach oedd gerllaw, a dechreuodd guro y bobl â'i holl nerth. "Dyfod yma i dori fy llestri, ai ïe ! Mi dalaf i chwi." Diangodd pawb allan, rhai yn chwerthin yn uchel, ac eraill yn rhwbio eu cymalau dolurus. Aeth y pregethwr hefyd allan; yr oedd pob gobaith am gynal odfa trosodd, ac nid oedd sicrwydd na ddeuai yntau dan y dialedd. Gwaeddodd rhyw amaethwr allan o'r dorf: "Pa le y mae y schoolmaster ? Caiff ddyfod i fy melin i, i roddi gair o gynghor. Dowch, bobl." I'r felin yr aed. Canwyll ddimai yn unig a gaed i oleuo y lle; a phan oedd Robert Jones yn darllen ei destun diffoddodd y ganwyll, pa un ai yn ddamweiniol ynte trwy ddireidi rhywun o'r dorf, ni wyddis, a dyma bawb yn y tywyllwch. Dyrysodd hyn y cyfarfod yn hollol; ac aeth y bobl i'w cartrefleoedd wedi methu cael pregeth, ond wedi cael llawer o ddifyrwch. Ychydig o hanes ychwanegol am Robert Jones, yn Rhuddlan, sydd genym. Y mae sicrwydd iddo sefydlu yma seiat fechan, lle y byddai rhyw ychydig yn ymgynull yn nghyd i gynghori eu gilydd am eu mater tragywyddol; ond nid yw yn ymddangos i'w arosiad yma fod yn foddion i newid nemawr ar arferion y lle, nac ar gymeriad annuwiol y preswylwyr.

Y lle nesaf y cawn Robert Jones ynddo yw Brynsiencyn, Sir Fôn. Bu mawr lwyddiant ar yr ysgol yma; deuai y plant yn llu i gael eu dysgu i ddarllen, a thrwy y plant enillodd yr ysgolfeistr galonau y rhieni. Pregethai hefyd yn y tai o gwmpas, pa le bynag y caffai dderbyniad. Deffrodd hyn elyniaeth offeiriad y plwyf. Nid oedd awydd arno ef am weled y plant yn dysgu darllen yr Ysgrythyr; ac yr oedd tuedd Fethodistaidd y meistr, a'i waith yn pregethu, yn boenedigaeth iddo. Ysgrifenodd lythyr at Madam Bevan yn galw arni symud Robert Jones i ffwrdd ar unwaith, gan ei ddarlunio fel dyhiryn ffiaidd, peryglus i heddwch y plwyf, ac un a geisiai gloddio o tan sylfaen yr Eglwys. Eithr yr oedd y foneddiges o Lacharn wedi dysgu peidio rhoddi coel i bob peth a ddywedai yr offeiriaid. Deallai fod y llythyr yn codi oddiar wenwyn yspryd; ac yr oedd Robert Jones, pan yr ymwelodd â hi, wedi ei boddloni mor fawr, ac wedi enill ei hymddiried gymaint, fel na wrandawai ar unrhyw gwyn a ddygid yn ei erbyn. Ni dderbyniodd y periglor unrhyw atebiad i'w epistol. Yn mhen amser aeth at yr ysgolfeistr, a gofynodd ai nid oedd wedi derbyn cenadwri yn ddiweddar oddiwrth Madam Bevan. Atebai yntau, "Naddo." Mawr oedd syndod y gŵr; nis gallai ddeall pa fodd na chawsai ei lythyr sylw; a thybiai yn sicr iddo, yn ddamweiniol, fethu cyrhaedd y foneddiges. Ysgrifenodd eilwaith lythyr cyffelyb i'r cyntaf; eithr ni wnaed sylw o hwn eto. Ymofynodd drachefn â Robert Jones, ai nid oedd Madam Bevan wedi ysgrifenu ato yn ddiweddar. Atebai yntau yn nacaol fel o'r blaen.

"Y mae hyny yn rhyfedd," ebai'r offeiriad; "ond clywed neu beidio rhaid i chwi fyned ymaith oddiyma; ni chewch gadw ysgol yn y fan hon yn hwy." Ymddengys mai yn y llan yr oedd yr ysgol yn cael ei chadw. Meddai Robert Jones yn ol: "Yr wyf yn cydnabod eich awdurdod, syr; ond a fyddwch chwi cystal a dweyd wrthyf am ba achos yr ydych yn fy nhroi i ffwrdd? Byddant yn gofyn i mi yn Sir Gaernarfon paham y daethum adref cyn pen fy nhymhor? Felly, mynegwch yr achos, fel y byddo genyf rywbeth i'w ateb i'm cymydogion.

"Wel, yr ydych yn pregethu tua'r Bryn yma," meddai y gŵr Eglwysig, "ac yn hudo y bobl ar eich ol."

"Oh!" ebai yntau yn ol; "ai hyny sydd genych yn fy erbyn! Ni byddaf yn gwneuthur dim ond darllen cyfran o Air Duw, gweddio, a chanu mawl i'r Arglwydd, a rhybuddio y bobl i beidio tori y Sabbathau, a phechu. Yr wyf yn meddwl, syr, fod hyny yn well na'u bod yn chwareu pêl ar ddydd yr Arglwydd, ar hyd y bryn; ac mi fyddaf yn cymeryd gofal, yn wastad, i ddarfod cyn amser y gwasanaeth yn yr eglwys."

"Ni waeth beth a fo," meddai y periglor, "y mae yn rhaid i chwi fyned oddiyma."