Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"A fyddwch chwi gystal, ynte," meddai, Robert Jones, "a rhoddi rhywun i orphen addysgu y plant yma? y mae yn dda iawn genyf am y plant; ac y mae tosturi yn llenwi fy nghalon atynt; byddai yn dda genyf pe y gosodech rywun i orphen y gwaith wyf fi wedi ddechreu."

"Na ofelwch chwi am hyny," ebai'r offeiriad, "y mae hynyna yn perthyn i mi, cerddwch chwi adref."

I ffwrdd yr aeth Robert Jones, a'r plant yn wylo yn hidl ar ei ol; eithr wrth ymadael dywedodd wrth yr offeiriad: "Cofiwch, syr, y bydd coffa am heddyw yn nydd y farn." Modd bynag, nid yw hanes y periglor yn gorphen yn y fan hon. Yn ol yr adroddiad a rydd Robert Jones, yn Nrych yr Amseroedd, aeth y gŵr Eglwysig a'i wraig i ymweled â boneddiges a breswyliai yn Penmorfa, Eifionydd, o'r enw Mrs. Lloyd, o'r Gesail. Tra yno, galwodd i weled un o'i gyfeillion. Dywedodd hwnw wrtho fod deiliad i Mrs. Lloyd yn preswylio yn Hendre Howell, yr hwn le oedd yn gyfagos i'w phalas, a'i fod yn arfer, er ys rhai blynyddoedd, derbyn pregethu i'w dŷ. "Ac," meddai y gŵr ieuanc, "yr wyf yn ofni nad oes neb yn ddigon gonest i hysbysu Mrs. Lloyd o hyny." Gwylltiodd yr offeiriad yn enbyd; edrychai ar dderbyn pregethwyr fel y nesaf peth at groesawu diaflaid. "Tybed fod hyny yn wir?" meddai. "O ydyw, y mae yn eithaf gwir," oedd yr ateb. "Wel," ebai, "ni fwytaf fi damaid o giniaw heddyw nes mynegu iddi." I ffwrdd ag ef tua'r Gesail; eithr erbyn iddo gyrhaedd y palas yr oedd ei safn ar dro. Dychrynodd y morwynion, a gofynasant rywbeth iddo; ond ni chaent air o ateb. Cyrchwyd ei briod ar frys, ond nis gallai lefaru gair wrthi hithau; yr oedd wedi cael ei daraw a'r parlys, ac yn fud y bu tra fu byw. Felly ni chafodd gyfleustra i adrodd am ŵr Hendre Howell, a chynaliwyd pregethu yno fel cynt. "Yn ddiau, y mae Duw a farn ar y ddaear."

Cyn ymadael ag ynys Môn aeth Robert Jones, a rhyw offeiriad Methodistaidd gydag ef, ar daith trwy yr holl wlad. Tyrai y bobl yn lluoedd i'w gwrando. Yr oedd bod offeiriad yn pregethu yn yr awyr agored, ac ar ddaear heb ei chysegru, yn rhywbeth anarferol. Eithr bodolai cryn ragfarn yn erbyn pregethwyr diurddau. Wedi gorphen yr odfa byddai dadleu mawr gyda golwg ar y ddau lefarwr, pa un ai y gŵr urddedig ynte y Methodist diurddau, oedd y mwyaf ei ddawn. Ac ymddengys fod y ddedfryd gyffredin yn ffafriol i Robert Jones. Ac meddai ei fywgraffydd: "Bu y tro yn foddion i symud rhagfarn y trigolion, a'u dwyn i gredu fod yr Arglwydd yn anfon rhai i bregethu yr efengyl heblaw yr offeiriaid."

Dychwelodd Robert Jones yn ei ol i Eifionydd, a bu yn cadw ysgol yn Llangybi, Brynengan, a Llanbadarn. Yr adeg hon elai gyda chysondeb i Lanllyfni, i gadw ysgol y nos. Ymddengys ei fod ysgolfeistr tra rhagorol. Fel hyn yr ysgrifena gweinidog enwog, a fu gydag ef yn yr ysgol: "Yr wyf yn cofio Robert Jones er ys dros haner cant o flynyddoedd, sef er pan fum gydag ef yn yr ysgol, yn Mrynengan, pan oeddwn oddeutu chwech oed. Yr wyf yn barnu na welais neb erioed yn meddu mwy o ddawn athraw ysgol. Er nad oedd yn berchen llawer o ddysg, eto meddai ddawn helaeth i drosglwyddo yr hyn a wyddai i'w ddysgyblion, gyda sirioldeb ac awdurdod. Ambell dro chwarddai a chwareuai gyda'r plant; ond ar ganol y llawenydd, pan welai hwynt yn myned yn rhy bell, gwnai ryw amnaid a barai iddynt oll ddeall hyny mewn mynyd, fel yr effeithiai i weithio arswyd a sobrwydd ar y cwbl. Er y byddai ganddo wialen yn yr ysgol yn wastad, eto nid wyf yn cofio ei weled yn curo nemawr neb erioed â hi. Er fod yn ei ysgol ugeiniau o bob math o blant, byddai yn eu rheoli gyda'r fath drefn, fel nad wyf yn cofio ei weled yn methu gydag un afreolaeth. Yr oedd llawer o honom yn credu y medrai gwinsto (consurio), gan y byddai yn medru cael allan bob drwg, a nodi y drwgweithredwr euog trwy fath o gastiau diniwed. Trwy hyn yr oedd yn gallu cadw rheolaeth ac ofn rhyfedd arnom, a hyny nid yn unig tra y byddem yn yr ysgol, ond hefyd ar hyd y ffordd wrth fyned a dyfod.'

Yr ydym yn ddiolchgar am y darlun tra desgrifiadol hwn gan un o'i hen ysgoleigion. Tybia llawer am y Methodistiaid cyntaf eu bod yn ddynion pendrwm, yn ystyried gwenu yn bechod, ac yn analluog i gyfranogi mewn un math o ddifyrwch a llawenydd, pa mor ddiniwed bynag y gallai fod. I'r dueddfryd hon y priodolir eu hymdrechion i ddarostwng ofer gampau yr oes. Eithr gwelwn am Robert Jones fod ei natur yn llawn nwyfiant, ac y gallai chwerthin a chwareu yn nghwmni y plant, a chyfranogi o'i hasbri a'u rhialtwch cyhyd ag y byddai yn naturiol, ac heb redeg i ormodedd. Feallai nad yw sirioldeb tymher yn anghydweddol