a difrifwch o'r fath ddwysaf. A medrai reoli ei hun, a thrwy hyny reoli y plant, fel na byddai y llawenydd yn croesi y ffin i diriogaeth gwagedd.
Tra yn cadw ysgol yn Brynengan, ymbriododd â Magdalen, merch Richard Griffith, Cae'r-tyddyn, plwyf Llangybi. Bu hon yn ymgeledd gymhwys iddo yn llawn. ystyr y gair. Yr oedd yn un o'r benywod siriolaf yn fyw; pleser calon iddi oedd cael cyfle i arfer lletygarwch; croesawai bregethwyr o bob dawn a gradd o dan ei chronglwyd; a chan fod teithio yn uchel ei fri yn ei dyddiau, caffai gyfleustra mynych i arfer y gras a rodded iddi. Pan fyddai Robert Jones oddicartref ar ei deithiau, byddai hi yn casglu ei phlant o'i chwmpas foreu a hwyr, ac yn cadw dyledswydd deuluaidd yn ddifwlch. Darllenai a gweddïai ei hun ar y cyntaf; ond wedi i'w merch, Mary, dyfu i addfedrwydd oedran cyflawnai hi y ddyledswydd ar yn ail a'i mam. Yn mhen ychydig rhoddodd Robert Jones yr ysgol heibio, ac aeth ef a'i briod i fyw i'r Tirbach, Rhoslan, plwyf Llanystymdwy; oblegyd hyn, fel Robert Jones, Rhoslan, y mae yn fwyaf adnabyddus hyd y dydd hwn. Cafodd brydles am saith mlynedd ar y Tirbach; adeiladodd yntau dy helaeth arno; un rhan o ba un oedd yn lle byw, a'r rhan arall yn gapel i addoli. Byddai yma bregethu cyson; ffurfiwyd seiat gref; cafwyd aml i odfa yno y bydd cofio am dani yn nghragywyddoldeb, a throwyd llawer o gyfeiliorni eu ffyrdd. Eithr nid oedd pregethu yr efengyl, er achub eneidiau, yn rhyngu bodd y gŵr urddasol a ddaeth i berchenogi y tyddyn. Felly, pan y terfynodd y brydles, cynygiodd ei hadnewyddu, ond ar yr amod fod y pregethu i gael ei roddi i fynu. Gwrthododd Robert Jones hyny, a bu raid iddo ymadael. Mewn canlyniad, chwalwyd seiat Rhoslan, ac ni fu achos yno gan y Methodistiaid hyd y dydd hwn. Ymaelododd Уу nifer fwyaf yn Mrynengan, a ffurfiodd eraill ganghenau eglwysi newyddion.
Y lle y symudodd Robert Jones a'i deulu iddo oedd Ty-bwlcyn, fferm fechan wrth waelod Garn Fadryn, ac yma y bu yn preswylio tra fu ei briod fyw. Teithiodd lawer trwy Ddé a Gogledd; bu yn ffyddlawn yn yr holl dy. Llais egwan a feddai; ac nid ymddengys fod nemawr o fiwsig yn perthyn iddo, ond caffai odfaeon grymus yn aml. Y tro cyntaf y bu mewn Cymdeithasfa oedd yn Llanfair-caereinion, Sir Drefaldwyn, a chan ei fod yn ŵr mor ddyeithr cafodd ei osod mewn lle anrhydeddus i bregethu. Yr oedd eneiniad ar yr odfa; disgynai y gwlithwlaw nefol yn ddwys ar ei yspryd ef, ac ar y bobl. Ar y terfyn aeth ei gyfaill, David Jones, Adwy'r Clawdd, ato, gan ddweyd: "O, Robert! Ti a'n siomaist ni i gyd. Yr oeddwn yn meddwl fod cryn lawer o synwyr yn dy ben, ond ni feddyliais erioed y cawn gymaint o arddeliad ar dy weinidogaeth."
Teithiodd ar ei draed lawer gwaith, yn nghwmni yr hen bererinion, i Langeitho. Yr oedd eu hamcan yn ddyblyg, sef cael cyhoeddiadau pregethwyr enwog y Deheudir i ddyfod i'r Gogledd, a chael adnewyddiad yspryd wrth wrando gweinidogaeth seraphaidd Daniel Rowland. Caent lawer o'u herlid wrth fyned a dychwelyd. Yr oedd lluchio cerig at y Pengryniaid yn ddifyrwch wrth fodd calon trigolion aml i ardal; enillasai Harlech, yn arbenig, hynodrwydd annymunol yn hyn o beth. Bu Robert Jones unwaith yno mewn enbydrwydd am ei hoedl. Eithr yr oedd y danteithion a arlwyid ar fwrdd yr efengyl yn Llangeitho yn fwy na digon o dal yn eu golwg am bob dyoddef. Un tro, medd ei fywgraffydd, cafodd Robert Jones ei gymeryd i fynu gymaint wrth wrando ar Rowland yn darlunio cariad Duw yn rhoddi ei Fab, gogoniant person, a digonolrwydd aberth y Cyfryngwr, a'i barodrwydd i dderbyn pechaduriaid, fel yr anghofiodd ei hun yn hollol; nis gwyddai pa un ai yn y corph ynte allan o'r corph ydoedd ; ni feddai un math o syniad pa le yr ydoedd ; ac aeth allan o'r cyfarfod heb ei het, a'r fath oedd cyffro ei feddwl fel na wybu ei heisiau am dro hir.
Fel y nifer amlaf o'r hen bregethwyr, nid oes genym hanes cyflawn am yrfa weinidogaethol Robert Jones. Cafodd lawer o'i erlid; amddiffynwyd ef yn rhyfedd mewn peryglon ddegau o weithiau, a bu yn offeryn i argyhoeddi llawer. Ond ni ddarfu ei fywgraffydd weled yn briodol groniclo yr amgylchiadau hyn. Yr unig wybodaeth o honynt sydd ar gael y mae mewn cysylltiad â hanesion gwahanol leoedd, llawer o ba rai sydd wedi eu cofnodi yn Methodistiaeth Cymru. Yn ol ei dystiolaeth ei hun, efe oedd y cyntaf i bregethu yn Abergynolwyn, Sir Feirionydd. Gwnaeth hyny ar yr heol yn y pentref, brydnhawn Sabbath, ond ni wyddis y mis na'r flwyddyn. Erbyn iddo gyrhaedd y lle yr oedd golwg lidus a chreulawn ar y dorf