dywedai Robert Jones: "A welwch chwi y bedd yna, Mr. Garnetts? Fe fydd pregethu yn y Dyffryn pan fyddwch chwi yn pydru mewn lle fel yna." Dychrynodd y dyn trwy ei galon, ac ni aflonyddodd ar y Methodistiaid mwy.
Mewn llawer o bethau gwahaniaethai Robert Jones oddiwrth fwyafrif y cynghorwyr Methodistaidd. Byddai eu gweinidogaeth hwy gan amlaf yn gyffrous; edrychent ar floeddio fel elfen anhebgor mewn pregeth; eithr llefaru yn dawel a wnelai efe, heb na bloeddio na thrystio. Oblegyd hyn, caffai lonyddwch i bregethu yn aml mewn lleoedd na oddefid hyny i neb arall. Eithr byddai ei ymadroddion bob amser yn ddwys, ac yn oleu; ceisiai yn mhob pregeth oleuo deall y rhai a'u gwrandawent; ac yn aml byddai dan arddeliad amlwg. Eiddil o gorph ydoedd; ond meddai feddwl gwrol. Ni ddychrynid ef gan beryglon a fyddent yn gwangaloni dyn cyffredin. Yr ydoedd hefyd yn dra pharod ei atebion; a rhwng hyn, a'i gynefindra â'r Ysgrythyr, byddent yn fynych yn cau safnau ei wrthwynebwyr yn effeithiol. Bu am beth amser yn cadw ysgol yn Beddgelert, a rhoisid benthyg y llan iddo i'r pwrpas. Pan yn tori yr ysgol un prydnhawn, rhoes ofyniad i'r plant i'w gymeryd adref, i'r hwn yr oeddynt i ddwyn atebiad dranoeth. gofyniad ydoedd: "Pa le y mae eglwys Dduw ?" Pan glywodd un o ddoethion Beddgelert y cwestiwn, dywedodd mewn diystyrwch: "Pw! ai dyna y fath feistr sydd genych? Gofyn yn mha le y mae yr eglwys, ac yntau yn cadw ysgol ynddi bob dydd!" Pan ddychwelwyd yr ateb i Robert Jones, dywedai fod y Beibl yn son am glustiau yr eglwys, a dymunai wybod beth oedd y rhai hyny. Eithr ymddengys fod y dyn hwn yn perthyn i'r rhywogaeth y cyfeirir atynt gan Solomon, y rhai er eu pwyo mewn morter â phestl ni ymedy ei ffolineb â hwy ; a dywedai yn ol: "Wfft i'r fath lob! Beth sydd yn haws iddo na gweled mai clust yr eglwys yw y clochdy."
Bu yn arweinydd doeth i'r Cyfundeb yn y Gogledd, ac yn arbenig yn Eifionydd, am flynyddoedd lawer. Byddai yn bresenol yn Nghyfarfod Misol ei Sir yn mron yn ddieithriad, ac nid yn fynych y byddai ei le yn wag yn y Gymdeithasfa. Bu yn bresenol dros haner cant o weithiau yn Nghymdeithasfa y Bala. Teithio ar ei draed y byddai gan amlaf; ac o herwydd anamledd lleoedd pregethu gan y Methodistiaid, nid anfynych y byddai raid iddo, ar gychwyn ei weinidogaeth, bregethu dair gwaith ar y Sabbath, a cherdded deng-milltir-arhugain yn y fargen. Yn ei gofiant adroddir am dano yn pregethu yn Henllan, ger Dinbych, nos Sadwrn; yn nghapel Tanyfron, gerllaw Llansanan, am naw boreu dydd Sul; yn y Bontuchel, ger Ruthin, am ddau; ac yn Adwy'r Clawdd, Sir Fflint, am chwech. Yr oedd hyn gryn lawer dros ddeng-milltir-ar-hugain, a cherdded a wnaeth bob cam. Pan yn adrodd am ei deithiau meithion wrth gyfaill unwaith, dywedai hwnw: "Robert Jones, pe y caech fyned yn ieuanc eto, byddech yn dynerach o'ch natur." Atebai yntau yn ol: "Nid wyf yn sicr o hyny. Clywais am foneddwr a wariodd ei ystad mewn afradedd, fel y bu yn dlawd am amser ; rywsut, llwyddodd i'w hadfeddianu, ond ei gwario a wnaeth drachefn." Awgrym pur glir mai cyffelyb yr ymddygai yntau pe y caffai gyfle i ail fyw ei einioes. Teimlai bryder mawr ar i'r Cyfundeb gadw y ffydd. Yr ydym wedi cyfeirio yn flaenorol at ymosodiadau Antinomiaeth ar y Methodistiaid mewn gwahanol ranau o Gymru. Bu dosparth yn Lleyn yn dal syniadau penrhydd, a gelwid yr heresi yn grefydd y Rhosddu." Torodd yr unrhyw heresi allan hefyd yn nghanolbarth Môn, a gelwid hi yn yr ynys yn "grefydd canol y wlad." Arferodd Robert Jones ei holl ddylanwad yn erbyn y syniadau gwylltion, penrhydd hyn, a diau mai efe a fu yn un o'r prif offerynau i'w hymlid o'r wlad. Adroddir am dano ef, a'i gyfaill John Pierce, mewn Cyfarfod Misol yn Môn, ac iddi fyned yn ddadl rhyngddynt å "Chrefyddwyr canol y wlad. Parhaodd y ddadl trwy y nos, hyd wawr y boreu, ac ni roddodd Robert Jones i fynu nes llwyr ddystewi ei wrthwynebwyr.
Pan o gwmpas haner cant oed, ac yn preswylio yn Nhy-bwlcyn, cafodd gystudd trwm. Enyniad yn yr ysgyfaint ydoedd, a thaflodd i fynu lawer o waed. Tybiai ef ei hun, a thybiai pawb a ddeuent i'w weled, mai marw a wnelai. Aml i noswaith yr oedd y teulu yn dysgwyl y byddai wedi myned i dragywyddoldeb cyn y boreu. Eithr teimlai eglwysi Lleyn ac Eifionydd nas gallent eu hebgor, a gwnaethant weddi ddyfal ar ei ran. Gwellhaodd yntau megys yn wyrthiol; braidd na edrychid "arno fel pe byddai wedi cael adgyfodiad o feirw. Gwedi ei adfer, dywedai ddarfod iddo yn ei gystudd gasglu yr oll o'i grefydd yn nghyd, sef ei brofiadau, ei bregethau, a'i lafur