gyda'r ysgolion, &c. Ar y cyntaf credai fod ganddo gryn bentwr. Ond erbyn dynesu i wynebu y gyfraith danllyd, y farn fawr, a thragywyddoldeb, aeth y pentwr crefydd yn ddim, yn ddim. Yn ngwyneb hyny, pan yr oedd wedi myned megys yn ddiwedd byd arno, daeth Mab Duw i'r golwg; a da iawn oedd cael ei weled yn ddigon i bechadur heb ddim i dalu.
Yr oedd Robert Jones yn gymeriad nodedig o grefyddol a phur. Gellir dweyd am dano fel am John Evans, y Bala, fod ei uniondeb yn ddiareb gwlad. Arferai dduwioldeb gartref, ac yr oedd y dduwioldeb hono yn llawn serchawgrwydd ac anwyldeb. Ymddiddanai a'i blant ar eu penau eu hunain am eu cyflyrau, am Iesu Grist, ac am y fraint o gael bod yn aelodau yn eglwys Dduw. Pan yr oedd ei fab ieuangaf, hogyn tua phedair-ar-ddeg oed, yn ymadael a'r teulu, aeth y tad i'w hebrwng ddarn o'r ffordd, rhyngddo a Bangor. Cyn ymadael trodd ato, gan ddweyd: "Wel, fy machgen bach; dyma ti heddyw fel un yn dyfod i ben croesffordd. Pan yr oeddit gyda ni, a than ein haden, yr oeddym yn ceisio dy arwain, a'th gynghori, a gwylio trosot; ond, yn awr, dyma ti yn ein gadael ni, ac fe fydd llawer yn ceisio am danat; un yn ceisio dy droi i ffordd ynfydrwydd, gwamalrwydd, ac ysgafnder; eraill i bechodau a fyddant yn warth ar dy enw tra y byddot byw. Cofia di yn awr dy fod wedi dyfod i ben y groeslon, a bod yn rhaid i ti ddewis tŷ Dduw, ei bobl, a'i waith; neu ynte, ddewis gelynion Duw, a'i bobl, a mwrdwyr dy enaid dy hun." Fel y gellid dysgwyl, effeithiodd yr ymddiddan yn ddwys ar y llanc, ac ni aeth geiriau ei dad penwyn yn anghof ganddo byth.

Heblaw bod yn bregethwr da, yn synwyrol mewn cynghor, yn llafurus gyda'r Ysgol Sabbothol, ac yn ddyn llawn, yr oedd Robert Jones yn llenor gwych, ac ysgrifenodd amryw lyfrau. A ganlyn sydd restr o'i weithiau:—
Lleferydd yr Asyn, yn gwahardd ynfydrwydd y Prophwyd, ynghyda a darluniad o dri phregethwr.
Cyfieithiad o'r Gyfrol Gyntaf o waith Gurnal.
Arweinydd i'r Anwybodus, pris chwech cheiniog.
Crynodeb o'r unrhyw, pris tair ceiniog.
Yinddiddan rhwng Dr. Opium, Galio, a Discupulis.
Drych yr Amseroedd sef, Hanes Diwygiad Crefyddol yn Ngogledd Cymru.
Grawn Sypiau Canaan sef, Pigion o Hymnau gan W. Williams.
O'r llyfrau hyn, y gwerthfawrocaf yn ddiau yw Drych yr Amseroedd. Ynddo casglodd