caredig i fy mrodyr yn y weinidogaeth, yn nghyd â henuriaid yr eglwysi, ac i mi fy hun, yn anad neb, na ryfygo neb o honom ddweyd llawer am Iesu Grist heb ei adnabod, a gwybod yn brofiadol am gymod à Duw trwyddo ef; profi blas maddeuant yn feunyddiol, fel Israel y manna, a theimlo grym y Gair, fel y mae yn wir Air Duw; bod yn feddianol o'r dduwiol anian, a chael arweiniad yr Yspryd Glân i fyw yn dduwiol, a'i gynorthwy yn barhaus i fugeilio y praidd, fel y gallom ddywedyd yn y diwedd ein bod yn lân oddiwrth waed pawb oll. Amseroedd enbyd yw y dyddiau diweddaf.
Os collir braenaru'r cyflwr, a'r galar dwys am bechod, fe wna doniau hyawdl y tro yn lle tân sanctaidd oddiar yr allor; ac fe ryfyga rhai ruthro yn mlaen, a thân dyeithr, er y caent eu lladd yn y diwedd o'r achos. Gobeithio na welir y dyddiau hyny byth ar Gymru, y gellir ysgrifenu ar ddrysau y tai addoliad: Dyma rith broffeswyr yn addoli y Duw nid adwaenir." Erfyniaf ar fod yr Arglwydd yn amlwg yn eich mysg; a bod y cyfarfod, trwyddo oll, dan wlith bendith i alw llawer o'r newydd, ac o ymgeledd neillduol i eglwysi Crist trwy y wlad. Yr eiddoch, tra b'wyf, ROBERT JONES."

Y mae yn sicr genym ddarfod i ddarIleniad y llythyr gynyrchu dylanwad dwfn ar y cyfarfod. Tua mis Ebrill, 1829, cafodd anwyd trwin, yr hwn a brofodd yn angau iddo. Buasai agos trwy ei holl fywyd mewn caethiwed gan ofn marwolaeth. Arferai ar weddi yn wastad ymadroddion tebyg i hyn: "Na âd ni, ein Tad anwyl, i fyned i'r afon dan ein dwylaw;" Dyro i ni ei chael yn glir erbyn myned i'r afon;" "Symud y cymylau a'r ofnau oddiar y gydwybod cyn wynebu angau." A chafodd ei ddymuniad. Ychydig ellid ddeall o'r hyn a ddywedai yn ei selni olaf oblegyd bloesgni, ond sylwai brawd oedd yn aros gydag ef un noswaith fod gwedd orfoleddus ar ei wynebpryd, a bod gwên siriol ar ei enau, tra yr oedd y dagrau yn rhedeg yn hid o'i lygaid. Nesaodd ato, i geisio deall yr hyn a ddywedai; a'r geiriau a glywodd oedd:—
"Cyfamod rhad, cyfamod cadarn Duw,
Ni syfl o'i le, nid ie a nage yw."
Ac meddai ei fywgraffydd: "Un o'r gloch boreu dydd Sadwrn, Ebrill 18, efe a hunodd yn dawel yn yr Iesu, yn 84 mlwydd, a thri mis oed, mewn henaint têg, fel tywysen wedi cyflawn addfedu." Y nos