Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lun ganlynol pregethodd Mr. Robert Owen yn ei wylnos, oddiar Ioan xi. 24: "Mi a wn yr adgyfodir ef yn yr adgyfodiad, y dydd diweddaf;" ac ar ei ol Mr. James Hughes, Lleyn, oddiar Num. xxiii. 10: "Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn." Cafwyd cyfarfod nodedig; disgynodd rhyw hwyl nefol ar y gynulleidfa; a phrin y medrent roddi i fynu canu yr emyn ar y terfyn:—

"Mae nghyfeillion wedi myned Draw yn lluoedd o fy mlaen."

Dydd ei gladdedigaeth, daeth torf fawr yn nghyd; braidd na ellid dweyd fod holl Leyn wedi cydymgynull. Yn nghapel y Ddinas, pregethodd y Parch. Richard Lloyd, Beaumaris, oddiar Luc ii. 29, 30; a chwedi y bregeth siaradodd y Parch. Michael Roberts ychydig yn syml am angau, barn, a thragywyddoldeb. O'r capel aed yn orymdaith i fynwent Llaniestyn; ceisiai y cyfeillion ganu wrth fyned; ond canu a'i haner yn wylo ydoedd. Eithr wrth ganu y penill:—

"Ymadaw wnaf a'r babell
'Rwy'n trigo ynddi'n awr,"

torodd llawer allan i orfoleddu. Ac yn nghanol gorfoledd, cymysg â dagrau, rhoddwyd corph Robert Jones i orwedd hyd y boreu mawr. Y mae yn sicr ddarfod i'r gwas enwog hwn i Grist wneyd gwaith mawr yn ei ddydd, ac i'w ddylanwad fod yn gymhorth pwysig i godi crefydd Methodistiaeth trwy Wynedd, yn arbenig yn rhandir Lleyn ac Eifionydd.

Nid oedd Robert Dafydd, Brynengan, i'w gyffelybu a Robert Jones parthed helaethrwydd gwybodaeth, pwysau cymeriad, safle weinidogaethol, na medr i arwain, ac eto y mae ei goffadwriaeth yn fyw y dydd hwn, ac yn perarogli yn hyfryd. Cafodd ei eni yn Cwmbychan, nid yn nepell o Feddgelert, yn y flwyddyn 1747; ac felly yr oedd tua dwy flwydd yn iau na Robert Jones. Gwehydd oedd ei dad, Dafydd Prichard wrth ei enw, ac yn wehydd y dygwyd yntau i i fynu. Bu Dafydd Prichard farw pan nad oedd Robert ond blwydd oed, ac felly ar ei fam y syrthiodd pwys ei fagu. Pan tua thair-ar-ddeg aeth at ewythr iddo, frawd ei dad, ac yno y bu nes cyrhaedd addfedrwydd oedran. Tyfodd i fynu yn ddyn ieuanc cryf, llawn dwy lath o daldra; yr oedd ei aelodau yn fawrion ac yn gryfion, ac ychydig o ieuenctyd y wlad allai ymgystadlu ag ef mewn ymarferiadau corphorol. Ni chafodd ddim manteision addysgol; peth dyeithr oedd ysgol yn nhymor ei faboed ef; a'r peth diweddaf a ddysgwyliai neb fyddai i hogyn tlawd, mab i fam weddw, gael ei anfon i'r cyfryw sefydliad, pe bai yn bod. Tyfodd hefyd yn gwbl ddigrefydd. Nid oedd yr efengyl yn cael ei phregethu yn yr holl gwmpasoedd. Bid sicr, yr oedd llan Beddgelert yn ymyl; ond ni feddyliai yr offeiriad am wneyd rhagor na darllen y gwasanaeth, ac ychydig a fyddai yn myned iddi i wrando ar hwnw. Felly, ni wyddai Robert, druan, mewn ystyr ysprydol, wahaniaeth rhwng ei law ddehau a'i law aswy; nid oedd ganddo unrhyw ddychymyg ei fod yn berchen enaid i fyw byth; o ran un syniad a feddai nid oedd unrhyw wahaniaeth rhyngddo a'r anifail a ddyfethir. Ymroddodd i lygredigaeth; rhagorai yn y campau; nid oedd gwylltach llanc o fewn y wlad, ac nid oedd neb ganddo i roddi gair o gynghor iddo. Ond yr oedd Duw wedi bwriadu pethau gwell, a phethau yn nglyn wrth iachawdwriaeth, am Robert Dafydd. Y dylanwad cyntaf a sobrodd ryw gymaint arno oedd pregeth o eiddo Sion Robert Lewis, Caergybi, yr "Hen Almanaciwr." Yr oedd y pryd hyn tuag un-ar-ugain oed. O gwmpas yr un adeg daeth Robert Jones, Rhoslan, i gadw ysgol i Feddgelert. Un o orchwylion yr ysgolfeistr oedd holwyddori y plant yn Nghatecism Griffith Jones; ac heblaw gofyn y cwestiynau argraffedig, byddai yn ychwanegu gofyniadau o'i eiddo ei hun. Aeth son am yr holwyddori trwy yr ardal. Deuai llu o bobl ynghyd i wrando; ac mor ddyeithr oeddynt i brif wirioneddau yr efengyl, fel yr oedd y pethau a glywent yn ddatguddiad iddynt. Yn mysg y llu daeth Robert Dafydd, heb ddim yn ei gyffroi ond chwilfrydedd. Eithr ymaflodd y gwirionedd yn ei enaid; cafodd olwg ar ei gyflwr llygredig ac euog; aeth yn ddiwedd byd arno o ran ei brofiad; ac ni welai ddim o'i flaen ond y llyn o dân. Mor druenus ydoedd o ran ei brofiad fel y dymunai fod yn gythraul yn hytrach na bod yn ddyn, am y credai y byddai ei drueni yn uffern yn llai. Wrth weled y llanc a flaenorai yn y maswedd a'r campau wedi colli pob asbri at y cyfryw bethau, ac wedi troi ei gefn yn gyfangwbl ar ei hen gyfeillion, digiodd pobl yr ardal yn ddirfawr wrth yr ysgolfeistr, a rhegai yr hen wragedd ef yn uchel wrth ei fod yn cerdded yr heol.

Dyma Robert Dafydd yn awr yn ddyn newydd yn Nghrist Iesu. Mawr oedd ei newydd yn Nghrist Iesu. Mawr oedd ei