Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Robert Dafydd, Brynengan

wanc am wrando yr efengyl, ond nid oedd pregethu cyson gan y Methodistiaid yn nes na'r Waenfawr o un tu, neu Brynengan o'r tu arall. Yn y lle olaf y bwriodd efe ei goelbren, er fod ganddo tua phymtheg milltir o ffordd arw, anhygyrch, i'w cherdded. Os byddai pregeth yn rhywle o fewn cyrhaedd, byddai Robert Dafydd yn sicr o fod yno. A gofalai Robert Jones, tra y bu efe yn Meddgelert, ei hysbysu o bob odfa. Diau i gynghorion a hyfforddiant Robert Jones fod yn dra bendithiol iddo; ond ymddengys mai pregeth o eiddo Dafydd Morris, Twrgwyn, a dynodd ei draed allan o'r maglau. Testun Dafydd Morris oedd: "Dygwch allan y wisg oreu, a gwisgwch am dano ef." Wrth wrando aeth cadwynau y gwehydd ieuanc yn chwilfriw mân. Eithr nid oedd ei waith yn cyrchu i wrando pregethu, ac yn ymwasgu at y Methodistiaid, yn gymeradwy gan ei ewythr, a bu raid iddo ymadael. Symudodd yntau i Frynengan, ac yma y treuliodd weddill ei oes.

Yn bur fuan wedi dyfod i Frynengan dechreuodd Robert Dafydd bregethu. Ni thybid y pryd hwnw fod llawer o barotoad i'r weinidogaeth yn angenrheidiol; pwy bynag a feddai galon gynhes at yr lesu, ac a awyddai ddweyd am dano wrth bechaduriaid, yr oedd croesaw iddo i arfer ei ddawn. Digon tebyg fod rhywbeth yn y gwehydd ieuanc a barai i bobl dduwiol Brynengan ei gymhell at y gwaith. Mawr awyddai am gyhoeddi yr efengyl yn Meddgelert, ardal ei enedigaeth; efe a gawsai ei gyhoeddi i bregethu yno y tro cyntaf, ond fel y gwelsom, oblegyd rhyw ddygwyddiad na wyddis ei natur, Robert Jones, Rhoslan, a gafodd y fraint. Ni ddaeth Robert Dafydd yn bregethwr poblogaidd. Ni fyddai cyrchu i'w wrando o bob cwr o'r wlad, fel gyda Roberts, Clynog. Ni fyddai ychwaith yn gallu trin athrawiaethau yr efengyl mewn modd medrus, gan ddatod cylymau, ac egluro dyrus bethau, fel rhai o'i frodyr. Felly, cynghorwr y cafodd ei ystyried trwy ystod ei oes. Ond yr oedd yn hynod gymeradwy, ac ni fyddai cynulleidfa un amser yn diflasu arno. Byddai yn hynod syml wrth lefaru; gwisgai yr oll o'i sylwadau mewn defnydd o'i wneuthuriad ei hun. Os na ellid dweyd fod gwreiddiolrwydd meddyliau, yn y byddai gwreiddiolder dirfawr yn yr arddull, ac yn y cymhariaethau a pha rai eu heglurid. Gweydd oedd Robert Dafydd yn y pwlpudMeddai y Parch. Henry Hughes, Brynkir, yn ei fywgraffiad: "Byddai ei draed yn symud yn ddiorphwys yn y pwlpud fel wrth yru y gwehydd. Byddai ysgydwadau ei gorph yn debyg yn y naill a'r llall. Os byddai pob peth yn myned yn mlaen wrth ei fodd odid fawr na fyddai eifysedd yn cyffwrdd a'i ben, ac yn crafu peth arno. Dyrysai edafedd yr ymresymiad ychydig, ac yna gwelid ei fysedd yn chwareu trwy ei wallt gwyn, i'w ddad-ddyrysu. Torai bryd arall, ac yna' byddai a'i ddwylaw yn cael y ddau ben at eu gilydd, ac yn eu cylymu yn nghyd. Wedi gwneyd hyny, byddai yn chwareu y wenol yn esmwyth a rhwydd, hyd nes y deuai dyryswch drachefn. Ac