yr oedd y cwbl mor naturiol ac esmwyth fel y byddai yn cario y gwrandawyr gydag ef."
Ni ystyrid neb yn meddu safle grefyddol yn mysg y Methodistiaid, pan gychwynodd Robert Dafydd gyda phregethu, heb iddo fyned i Langeitho, i glywed Rowland; a bu yntau yno droiau. Nid yn unig yr oedd ganddo ef a'i gymdeithion ffordd bell, dros bedwar ugain milltir, i'w cherdded, ond yr oedd y daith yn ogystal yn dra pheryglus, a rhaid oedd dyoddef llawer o wawd ac erlid wrth basio trwy y gwahanol bentrefydd. Fel enghraifft o'r erlid, adroddir yn Methodistiaeth Cymru am Robert Dafydd, a John Pierce, pregethwr a fu farw yn gymharol ieuanc, yn myned ar eu taith. Hwtiwyd hwy yn ffyrnig yn Nhanybwlch; a bu llefain gwawdlyd ar eu hol yn Nolgellau; ond cyrhaeddasant Langeitho yn lluddedig erbyn amser yr odfa ddydd Sadwrn o flaen y cymundeb. Eithr cyn pen llawer o fynydau o wrando Rowland, yr oedd eu holl ludded wedi diflanu, eu holl ofidiau wedi eu hanghofio, a'u llestri yn rhedeg trosodd gan orfoledd yr iachawdwriaeth.'
Fel enghraifft o'r peryglon, cymerer a ganlyn allan o'r un llyfr: "Yr oedd y ffyrdd yn anhygyrch, a phreswylwyr yr ardaloedd yr aent trwyddynt yn anniddig; ac weithiau cyfarfyddent a thywydd blin o wynt ac o wlaw, neu o eira a lluwchfeydd, nes y byddai yn anmhosibl yn mron iddynt fyned nemawr yn mlaen. Dygwyddodd i Robert Dafydd unwaith, ac un Richard Morris, yr hwn oedd gydag ef, ar eu dychweliad o Langeitho, pan yn croesi y Traeth-bach, gael eu hamgylchynu gan y llanw, a bu y ddau yn agos i angau. Yr oedd Robert Dafydd, yr hwn oedd o faintioli lled fawr, hyd at ei geseiliau yn y dwfr, a Richard Morris, yr hwn oedd yn llai ei faintioli, hyd at ei wddf. A chyda bod y dwfr fel hyn yn ddwfn, yr oedd y noson yn oer iawn, o rew ac eira, a rhyfedd ydyw iddynt ddianc â'u bywydau ganddynt; eto, dianc a wnaethant. Buont ddyddiau cyn gallu cyrhaedd i'w cartrefi, gan faint oedd y lluwchfeydd eira, a chan anhawsed oedd myned trwyddynt." Yn sicr, yr oedd eu crefydd yn costio yn ddrud, yn mhob ffordd, i'r Methodistiaid cyntaf; ac oni bai eu bod yn ymwroli fel rhai yn gweled yr anweledig, buasent wedi diffygio oblegyd y rhwystrau.
Er na ystyrid Robert Dafydd yn bregethwr doniol, byddai weithiau yn cael odfaeon nerthol. Yn Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd cawn hanes odfa ryfedd o'i eiddo, yn gorchfygu pawb. Fel hyn y dywedir: "Dygwyddodd fod John Elias ar daith trwy y rhan yma o Sir Feirionydd. Cyhoeddasid ef i bregethu yn ol y trefniant yn y Dyffryn, ar nos Sabbath. Yr un Sabbath yr oedd Robert Dafydd, Brynengan, yn y Gwynfryn, am ddau o'r gloch, a'r nos. Wrth gyhoeddi ar ddiwedd odfa y prydnhawn, anogai Robert Dafydd y neb a ewyllysiai i fyned i'r Dyffryn, i glywed y gŵr enwog yn pregethu, yn hytrach nac aros yn y Gwynfryn i wrando arno ef. Aros, pa fodd bynag, yn y Gwynfryn a wnaeth llawer; a'r noswaith hono torodd allan yn orfoledd mawr yn y Gwynfryn, y fath y bu sôn am dano am amser maith. Yr oedd Humphrey Evans, wedi hyny o Lanfair, a John Davies, tad y Parch. John Davies, gynt o Lanelli, yn llanciau eistedd ar ymyl y gallery; a thra y cynyddai y gorfoledd yn ei rym, neidiasant dros yr ymyl i'r llawr brwyn islaw, gan ymuno â'r gynulleidfa mewn neidio a molianu. Yn mysg y gynulleidfa ar y llawr yr oedd priod Richard Owen, wedi hyny o Runcorn, ac yn ddiweddaf o Penal, yn wraig ieuanc, a baban yn ei breichiau. Hithau hefyd a ddechreuodd neidio a molianu, gan daflu y baban oedd ganddi yn ei breichiau i ffedog ei mam, yr hon a eisteddai yn ei hymyl. Edrychai y ddau hen flaenor o'r sêt fawr ar yr olygfa gyda mwynhad rhyfeddol; ac wrth weled y wraig ieuanc yn taflu ei baban i ffedog ei mam, ebe John Jones, wrth William Richard: "Weli di. Dyma y brophwydoliaeth yn cael ei chyflawni : A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturia wrth fab ei chroth? Ië, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di.'"
Cawn hanes llawer eraill o'r cyffelyb gyfarfodydd, pan y torai allan yn orfoledd cyffredinol, dan weinidogaeth Robert Dafydd. Pregethai unwaith mewn amaethdy, o'r enw Brydyni, yn ardal Brynengan. Ei destun oedd, Exodus iii. 3: "Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw y berth wedi llosgi." Adeg diwygiad ydoedd; a daethai cynulleidfa fawr yn nghyd, nes yr oedd y tŷ wedi ei orlenwi. Yr oedd Robert Dafydd ar uchel fanau y maes, a'r gynulleidfa wedi ei chyffroi yn ddirfawr, ac ar y diwedd ymdorodd allan yn orfoledd cyffredinol. Yn mysg y dorf yr oedd gôf, o'r