enw Robert Edward. Daethai ef yno oddiwrth ei waith, ac heb ymolchi. Felly, yr oedd ei wyneb yn ddu. Ond dan y bregeth, dyma ei ddagrau yn dechreu ffrydio; a gwelid dau rych gwyn ar hyd ei ruddiau, ar hyd pa rai y llifai y dwfr o'i lygaid. Buwyd am amser yn canu ac yn gorfoleddu; a dyma ran o'r penill a genid:
"Mae'r Offeiriad mawr yn sefyll
Yn yr afon dywyll, ddu;
Drwyddi af ar ol fy mrodyr,
Dysglaer lwybr yno sy'.'
Eithr fel gweddïwr, ac yn arbenig fel gwr cymhwys i gadw seiadau, y rhagorai. Yr oedd yn nodedig o blaen gyda hyn; ni pharchai wyneb neb, eithr dywedai y gwir dros asgwrn ei gefn, pa mor hallt bynag y gallai fod. A chan y gwyddid ei fod yn onest, a bod ei lymder yn codi oddiar wir awydd am les y bobl à pha rai yr ymddiddanai, ni fyddai neb yn digio wrtho. Ymddengys hefyd y meddai ryw dreiddgarwch a chraffder, fel ag i allu gwahaniaethu rhwng yr ûs a'r gwenith. Gofynid ei gyhoeddiad i fyned o gwmpas i gadw seiat; a byddai llawer o bobl dda, pryderus am eu cyflwr, yn awyddus am gael ei farn gyda golwg ar eu crefydd, gan yr ystyrient ei farn ar y mater agos yn anffaeledig. Un tro, yn Four Crosses, ymddiddanai â chwaer nodedig o grefyddol, sef Ellen Jones, Llwyndyrus. Wrth ei holi, gwelai nad oedd fel arfer, a bod ei meddwl ynddi yn derfysglyd. Yn sydyn gofynai iddi: "A fu rhywbeth annymunol rhyngoch â rhai o'ch cymydogion yn ddiweddar?" Cyfaddefodd hithau fod hyny yn wirionedd.
Yn Nghaer, unwaith, ymddiddanai â gŵr mawr, cyfoethog, ond a ystyrid yn fydol a chybyddlyd. Ceisiai Robert Dafydd ei dynu allan, a chael o hyd i brofiad crefyddol, ond methai ddod o hyd i ddim. O'r diwedd, dechreuodd ddweyd pethau llymion wrth y dyn, ac awgrymu yn bur glir, ei fod yn ei ystyried yn annuwiol o gyflwr. Teimlai y Parch. John Parry, yr hwn oedd yno yn weinidog, ei fod yn myned braidd yn mhell, ac ofnai iddo ddweyd pethau llymach. Felly, awgrymodd i'r hen gynghorwr ei bod yn bryd gorphen. Yr oedd yntau yn bur hyf ar Mr. Parry, gan eu bod ill dau wedi cael eu dwyn i fynu yn yr un sir, ac meddai ol: "Gorphen di; ond y mae y dyn yma yn pydru yn ei bechod gen ti."
Un cymhwysder mawr ynddo tuag at gadw seiat oedd ei gof gafaelgar. Medrai gofio profiadau blaenorol y rhai yr ymddiddanai â hwynt, a chymharu y cyfryw a'u profiadau presenol. Cadwai seiat unwaith yn Brynaerau, Clynog, ac yr oedd rhyw ŵr yno yn dweyd ei brofiad. Yn mhen tua blwyddyn yr oedd yno drachefn ; a chafodd yr un profiad gan y dyn. Cyffrodd Robert Dafydd, ac meddai: "D. anwyl, ai yn yr un fan yr wyt ti? Dydi y bugail ddim yn cadw y defaid o hyd i bori ar yr un tir; y mae yn symud eu porfa yn feunyddiol. Y mae yn bryd i tithau symud dy borfa, onide ti lwgu yn y fan yma."
Tybiwn fod genym syniad pur gywir erbyn hyn am Robert Dafydd. Yr ydym yn ei weled yn ddarn o natur bur, heb gael nemawr o'i gaboli na'i ddiwyllio, yn onest hollol yn mhob amgylchiad, ac yn meddu ffroen lem i ddarganfod drygioni. Un o'i brif elynion ydoedd balchder. Nis gallai oddef edrych ar ferched ieuainc gyda rhybanau am eu penau, a gorchuddleni ar eu gwynebau, a dywedai bethau celid wrthynt, ac am danynt weithiau. Byddai yn zêlog dros ddysgyblaeth. Meddai fawr ofal calon am burdeb y tŷ. Eithr pe y tybiem o herwydd hyny ei fod yn arfer llymder ang-Nghristionogol, ac yn ceryddu er mwyn ceryddu, gan fod yn ddifater am deimladau, gwnaem gam enbyd ag ef. Yr oedd achos o ddysgyblaeth gerbron seiat Brynengan unwaith. Cododd dyn dideimlad ar ei draed, gan ddechreu edliw beiau y cyhuddiedig iddo, a hyny mewn modd tra anfrawdol. Prin y cafodd orphen ei druth nad oedd Robert Dafydd ar ei draed, ac yn tywallt olew i glwyfau y dyn tlawd oedd gerbron. "Nid edliw beiau y mae ein Duw ni," meddai; "eu maddeu nhw y mae o!" Dywedai hyn mewn teimlad dwys, a phwysleisiai yn drwm ar y gair "maddeu."
Adroddir hanesyn arall am dano sydd yn brawf o'r un peth. Aeth gŵr perthynol i seiat Brynengan i ffair Cricieth, er cyflogi dros y cynhauaf gwair. Wedi cytuno, aeth ef a'r dyn a'i cyflogasai i'r dafarn, ac yfasant ryw gymaint o ddiod. Yr oedd hyn cyn bod sôn am ddirwest, a phan nad ystyrid myned i'r dafarn mewn un modd yn anghydweddol â chrefydd. Gwedi dyfod allan deallodd y gŵr o Frynengan ei fod wedi yfed mwy nag a ddylasai, a'i fod i raddau dan ddylanwad y ddiod. Ciliodd yn llechwraidd i gae oedd gerllaw, a chysgodd am ryw gymaint o amser. Gwedi deffro, ofnai fod arwyddion meddwdod o hyd i'w gweled arno; felly aeth adref ar hyd y llwybrau mwyaf dirgel. Dyn da ydoedd, er iddo dripio; teimlai ei gydwybod yn hynod o anesmwyth o'i fewn; a'r cyfleustra cyntaf a gafodd aeth ar ei union at Robert Dafydd, i adrodd sut y bu. Gwrandawai yr hen gynghorwr arno yn ddystaw, a myfyrgar. Wedi i'r dyn orphen ei ystori, meddai wrtho: "Duw a dy helpo! Welodd rhywun di?" "Naddo neb, dwy'n meddwl, ond y Brenin Mawr." "Ië, ie," meddai Robert Dafydd; "mi wn iddo fo dy weled. Wel, paid a dweyd wrth neb; a ddyweda inau byth wrth neb. Paid a gwneyd byth yn rhagor. A gweddïa ar Dduw ac edifarhâ." Dywedai y geiriau diweddaf gyda phwyslais arbenig. Aeth blynyddoedd lawer heibio, a diwrnod angladd Robert Dafydd yr adroddodd y dyn yr hanes wrth rywun.
Cynhaliai seiat unwaith yn Capel Uchaf, Clynog. Yr oedd yr achos yn dra gwywedig ei wedd, a'r ychydig a ymgynullent yno yn hynod ddigalon. Yr oedd hyn cyn i Robert Roberts symud i Glynog; oblegyd, fel y darfu i ni sylwi yn flaenorol, isel hynod oedd Methodistiaeth pan aeth efe yno. Wrth weled y bobl â'u penau i lawr, ac yn edrych mor llwfr, cynhyrfodd Robert Dafydd, a neidiodd ar ei draed, gan ddweyd yn gynhyrfus: "Yn enw Duw, beth sydd arnoch chwi, bobol! Oni wyddoch chwi o'r goreu fod Iesu Grist wedi cael ei eni yn Methlehem, ac wedi byw yn Nazareth a Chapernaum? Oni wyddoch chwi iddo fod mewn ing yn Gethsemane, ac iddo ddyoddef poenau'r groes ar Galfaria? Oni wyddoch chwi ddarfod iddo gael ei gladdu, ac iddo adgyfodi y trydydd dydd, a'i fod wedi esgyn i'r nefoedd, lle y mae yn awr yn eiriol drosom ni?" Aeth tros holl hanes y Gwaredwr yn y modd hwn, nes cyffroi y bobl trwyddynt. Gwelid hwy yn cyfodi eu penau, ac yn dechreu wylo dagrau o lawenydd, a gorphenodd y cyfarfod mewn gorfoledd mawr.
Byddai yn barod i dderbyn dylanwad crefyddol, os deuai; lledai ei hwyliau i'r gwynt, os byddai awel yn chwythu. Adroddir yn Methodistiaeth Cymru am odfa ryfedd yn Nghapel Uchaf, Clynog, pan y disgynodd rhywbeth sydyn a dyeithriol ar y gynulleidfa: "Cyhoeddasid y byddai Robert Dafydd, Brynengan, a William Roberts, Clynog, yn pregethu yno gyda eu gilydd, ryw amser penodol. Yr amser a ddaeth. Pregethodd William Roberts yn gyntaf, oddiar Luc ix. 62: Nid oes neb ar sydd yn rhoddi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ôl, yn gymhwys i deyrnas Dduw.' Ond cyn iddo orphen pregethu, disgynodd dylanwadau mor rymus ar y bobl, nes yr aeth y rhan fwyaf o honynt i waeddi, ac eraill i wylo, a phawb a ddaliwyd â syndod. Ni roddwyd cyfleustra i'r hen batriarch Robert Dafydd roddi gair i mewn. Safai yn y pwlpud yn syn, gan grafu ei ben, a dyrysu ei wallt a'i ddwylaw, yn ol ei arfer. Rhoddai arwyddion fod ei lestr yntau yn orlawn, a'i fod yn barod i dori allan i waeddi a'i holl egni."
Adrodda y Parch. Henry Hughes am dano pan yr aeth i'r hwyl yn Brynengan. Cafodd ei gario ymaith gan ei deimlad gymaint, fel y cydiai yn nwylaw yr hen flaenor, William Jesus, tad Pedr Fardd, a thaid Nicander, yr hwn yntau hefyd oedd yn fardd da. A than afaelu yn nwylaw eu gilydd, dechreuasant orfoleddu a neidio fel dau hogyn. Dyblent a threblent y darn penill hwnw: "Wrth gofio'r llawenydd a fydd."
Yr oedd Daniel, mab Robert Dafydd, yn edrych, ac yn mwynhau yr olygfa yn ddirfawr, a dywedai wrth y rhai oedd o gwmpas "Rhwng teiliwr a gwehydd." Gwehydd, fel y dywedasom, oedd Robert Dafydd, a theiliwr oedd William Jesus.
Cafodd Robert Dafydd oes faith, a thua diwedd ei fywyd mawr awyddai am weled diwygiad drachefn cyn ei briddo. Pregethai ar y mater, a thestun pregeth dra nodedig o'i eiddo oedd: "Eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn." Bu y mater yn destun ei weddïau dirgel bob dydd am ddwy flynedd. Ai i'w ystafell bob dydd gyda'r neges yma yn arbenig. Gweddïai hefyd yn uchel, yn nglyn a'r un pwnc, mewn congl neillduedig yn yr ardd. Arferai enwi yr amaethdai yn ei weddïau, a gofynai ar i'r Arglwydd achub y preswylwyr. "Ti a wyddost," meddai, "O Årglwydd, fod yma rai tai a'r addolwyr a fu ynddynt wedi meirw, a bod yr hen allorau wedi eu bwrw i lawr. O fy Nhad, gad i mi weled un diwygiad eto cyn marw; gad i mi weled fy nghymydogion wrth y degau yn troi eu gwynebau i dy dŷ, dan gerdded ac wylo; ac os caf, mi a fyddaf yn foddlon i farw y fynyd a fynot." Gwrandawodd yr Arglwydd ei weddi. Yn y flwyddyn 1831, ymwelodd Duw yn rhyfedd â Gogledd Cymru, yn arbenig rhandir Lleyn ac Eifionydd, ac ychwanegwyd canoedd lawer at yr eglwysi. Gelwir ef yn "Ddiwygiad Brynengan," a pharhaodd yn ei