Prawfddarllenwyd y dudalen hon
"Na," eb Huw a gwên casineb,
A chreulondeb ar ei wedd,
"Cadwer ef yn fyw a dyger
I'n difyrru wedi'r wledd."
Yna aeth y gwŷr i wledda
Gyda'r iarll, o faes y dref,
A gadawsant Ruffydd yntau
Yno yn ei gadwyn gref.
Safodd yno ddau i'w wylio
Nes bâi derfyn ar y wledd;
Pwysai'r naill ar fon ei bicell,
Pwysai'r llall ar garn ei gledd.
Darfod 'roedd y dydd yn araf,
Gwyll y nos oedd yn trymhau;
Cerddodd gwr cyhyrrog, cadarn,
Heibio'r lle y safai'r ddau.
Galwodd un o'r ddau yn ebrwydd,
A gofynnodd pwy oedd ef;
Ond bu farw y ddau heb allu
Codi llaw na rhoddi llef.
Heb lefaru gair o'i enau,
Codi'r teyrn a orug ef
Ar ei gefn a'i ddwyn yn frysiog
Drwy y mur o faes y dref.