Prawfddarllenwyd y dudalen hon
VIII. OWAIN A NEST.
I.
YNGHASTELL Rhys ap Tewdwr
Yr oedd llawenydd mawr,
Am ddarfod trechu'r gelyn traws
A bwrw ei lu i lawr.
Daeth mil o bendefigion
O lawer lle i'r llys,
A mil o feirdd i ganu clod
A mawl y Brenin Rhys.
A pheri wnaeth y Brenin
Fod yno dwrneimaint,
Ymryson trin y gwaew a'r cledd
Rhwng gwyr o uchel fraint.
Ar wastad lawnt y castell
Cyfodwyd adail wiw,
A gwisgwyd a theisbannau gwych
A llenni o lawer lliw.