Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A gwawr y bore 'n torri,
Fe ddaeth i gyrrau'r tir
A lywiodd meibion Bleddyn gynt
Drwy lawer helynt hir.

Lle bu ddigonedd unwaith
Nid oedd ond anrhaith du,
A gwŷr y goror wedi ffoi
Rhag creulon estron lu.

Daeth dewin i'w gyfarfod
Ar odre coediog allt,
Yn grwm ei gefn a byrr ei gam
A hir ei farf a'i wallt.

"Ha! Owain ap Cadwgan,
Pa beth a fynni di ?"
"O ddewin hysbys, ceisio'r ferch
A gerais yr wyf fi."

"Och! Owain ap Cadwgan,
Mynega im pa le
Yr oeddit pan fu gwympo Rhys
A llosgi llys y De?"

"Ni chwympwyd llew Deheubarth,
Nid oedd a drechai Rys!"
"Mae castell estron ar y fan
Lle'r oedd ei lydan lys!"