Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae tân ynghastell Cenarth
A'i fflamau 'n llosgi'r nos,
A dau yn eithaf wynfyd serch
Yn rhodio ar hyd y rhos.
Ni chlywant swn y gwyntoedd,
Ni ddorant ddüwch nos,
Mae Owain fel y storm, a Nest
Yn anaearol dlos!