Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Gwrendy ar y beirdd yn canu
Hanes calon mab a merch,—
Eiddi heno aros cariad,
Eiddi heno atgof serch.
Cofio mae am serch Ednyfed
(Och! nad byw Ednyfed mwy!)
Cofio heno yn ei chalon
Am y dydd y rhwymwyd hwy.
Gwrendy ar chwerthin y rhianedd,
Eto gwelw a thrist ei gwedd;
Gwel y gâd yngwlad yr estron,
A'r rhyfelwr yn ei fedd.
Nid oes neb a wel ei gofid,
Nid oes neb a wŵyr ei loes,
Mae a'i gwelsai ac a'i gwypai
Yn y gweryd dan ei groes.
Oddi fewn mae cân a chwerthin
Gwin a medd a gwenau mwyn;
Oddi allan mae y gwyntoedd
Heno'n wylo'n drist eu cwyn.
Trwm i galon friw Gwenllian
Yw y gân a'r chwerthin llon,
Gwell fâi swn y gwynt galarus
Gan yr hiraeth yn ei bron.