Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yna gwrida yr arglwyddes,
Yna trydd yn welw ei gwedd—
Mae a ganai'r delyn honno.
Heddyw'n huno yn ei fedd!

Ond mae dwylaw y cardotyn
Bellach ar y tannau mân,
Nes mae pawb yn troi a gwrando
Ar y ryfedd gainc a gân.

Mae Gwenllian yn cyfodi
A sibryda'n wan ei llef—
"O Ednyfed, O Ednyfed!"
Yna syrth i'w freichiau ef.