Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I.—YR HEN FFERMWR.
(CYFLWYNEDIG I STEPHEN REES AC ISAAC JONES).

DAETH Dafydd Owen Gruffydd
I fyw i Dy'n y Coed,
Lawer blwyddyn faith yn ol,
Yn bump ar hugain oed.

Yr oedd yn wr gosgeiddig,
Llawn dwylath oedd o hyd;
Cyhyrrog oedd, ac ar ei gefn
'Doedd unrhyw bwys ddim byd.

Yr oedd ei wallt yn loewddu.
A llawn modrwyau mân,
A gwritgoch oedd ei ddwyrudd ef
A'i lygaid fel y tân.

Er nad oedd ganddo arian
Er na roed iddo ddysg,
'Doedd gwmni na buasai ef
Yn frenin yn eu mysg.