Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er garwed llawer tymor,
Ni phallwyd dwyn y rhent
Yn llawn i'r conach unoes oedd
Yn honni hen ystent.

Pan fyddai eisiau torri
Y ddadl erwina 'rioed,
Yr oedd uniondeb, pwyll a barn
I'w cael yn Nhy'n y Coed.

A phan fâi angen cyngor
Ar rai o bob rhyw oed,
Nid sicrach cyngor undyn byw
Na chyngor Ty'n y Coed."

Nid ydoedd ef nac ynad
Na barnwr mawr ei glod,
Ac eto ni bu ynad gwell
Na barnwr mwy yn bod.

Ni feddai ef awdurdod
Un gyfraith dros ei farn,
Ond grym cydwybod onest glir
Gwr cywir hyd y carn.

Yn wyneb profedigaeth,
Er gwaedu o'i galon ef,
Nid ildiai mwy na'r dderwen dan
Guriadau'r dymestl gref.