Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Daeth deuddyn arall wedi hyn
I'r bwthyn gwyn i fyw;
Rhoes Sion yr ardd, dan flodau'n frith,
I'r ddau, a bendith Dduw.

A Chatrin, yn ei hol yr aeth
Yn llaethferch Bron y Nant,
A byw fel cynt yr ydoedd Sion
Yn hwsmon Pen y Pant.

Daeth gaeaf du ar ol yr haf,
A haf drachefn ar hynt,
Ond nid oedd Sion a Chatrin Rhys
Yn caru megys cynt.

Pan daenai Mai ei flodau gwiw
Hyd lawr, bob lliw a llun,
Fe welodd Sion roi Catrin Rhys
Yn wraig ffodusach dyn.

Ac yntau'n cario calon friw,
Er fod ei liw yn iach,
Gan ddwyn ei geiniog brin yn bur
I'w fam a'i frodyr bach.

Fe welodd dyfu'r brodyr bach.
Yn llanciau iach a llon;
Agorodd eu priodi hwy
Hen glwy o dan ei fron.