Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid oedd yn Llan y Mynydd
Ond cant o deios mân,
Cartrefi gweithwyr gwael eu ffawd
A'r oll yn dlawd, ond glân.

Y cyflog, bychan ydoedd,
A'r teulu yntau'n fawr,
A gwyddai'r gweithwyr beth oedd bod
Heb obaith lawer awr.

Pan fyddai'r gaea'n erwin,
A'r gwaith yn brin ryw bryd,
Y bugail druan oedd eu twr
A'u swcwr hwy i gyd.

Ymwelai â'r cartrefi,
Gwrandawai'r stori brudd,
A rhoddai swllt i lawer un,
A'r deigryn ar ei rudd.

Pan ddeuai angau heibio
A'i law ar dro yn drwm,
Fe geisiai roddi cysur llon,
A'i galon fel y plwm.

Wrth erchwyn gwely angau
Bu'n sefyll lawer gwaith,
A'i law a'i lygad yn rhoi help
Nad allai unrhyw iaith.