Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn dawel ac yn ddiwyd, gwnaeth ei waith,
Nes daeth ei daith ar ganol dydd i ben,
A distaw iawn y dug ei gystudd maith
Fel un yn gweld yr achos drwy y llen.

Ni wybu'r oes mo faint ei ddoniau ef,
Ni wybu undyn faint a wyddai chwaith,
Ond os na chlywir mwyach yma'i lef,
Daw goleu dydd yfory ar ei waith.