Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Gwelodd yn ei freuddwyd goleu
Lewyrch ar ei lafur maith;
Llenwi llawer o gyfrolau
Hardd o wisg yr oedd ei waith.
Taerwyd mai oferedd ydoedd
Ei freuddwydion oll i gyd;
Eto unig fyd y bydoedd
Oeddynt iddo ef o hyd.
Yn ei galon fe ddychmygodd
Ieuanc fyd heb wae na chŵyn;
Credodd ynddo a dirmygodd
Aur ac arian er ei fwyn.
Wyched oedd ei weledigaeth,
Uched oedd ei gais ef gynt!
Ond yn nydd y brofedigaeth
Chwalwyd hwythau gyda'r gwynt.
Daeth tynghedfen i wahanu
Rhyngddo â'r idëol fyd;
Mae y cerddi heb eu canu,
Mae y bardd yn adfail mud.
Gwrthun, ebe gwŷr y geiniog,
Ofer oedd ei lafur ef.
A'i ddychymyg ffol, adeiniog,
Melltith oedd, nid bendith nef.