Prawfddarllenwyd y dudalen hon
VI.—Y TRUAN.
UN o dô isaf y werin oedd ef,
O deulu trueni a thlodi;
Y cyntaf peth a gofiai oedd llef
Anghenus o'i gylch yn cyfodi.
Gwybu ddioddef ym more 'i ddydd,
Dioddef gan oerni ac eisiau;
Gwael oedd ei raen a gwelw oedd ei rudd,
A than ei ddau lygad yn gleisiau.
Trist ydyw canu ei fywyd ef,
Bardd hagrwch yw'r prydydd a'i cano;
Budr oedd ei gartref ynghors y dref,
A phoenus yw darllen am dano.
Eto 'roedd rywbeth yn debyg i ddyn,
Ac ynddo ef unwaith bu enaid;
A'r prydydd a ganai fywyd ei hun,
Nid allai anghofio 'i uchenaid.
Gwelodd ei dad yngafael y nych
Yn marw gan dorri ei galon,
A'i fam yn dihoeni 'n druan ei drych
Ynghanol ei phoen a'i gofalon.