Cyfarfu â benyw wrth rodio'r ystryd,
A honno fel yntau yn rhynnu;
Truan a brwnt oedd ei bywyd i gyd,
Ond glân oedd ei henaid er hynny.
Er saled ei diwyg, glân oedd ei phryd,
A gwelwyd ei glendid yn fuan;
Trachwant goludog a phleser y byd
A'i dug oddiar draserch y truan.
Darfu ei obaith yntau i gyd.
Ac ni chafwyd neb i'w waredu,
Cerddodd hyd lwybrau duon y byd
A'i galon o hyd yn caledu.
Ni roddwyd iddo mo'r atgo mwyn
Am ienctid iach a di bryder,
Y fendith sy'n lleddfu llawer cwyn
Ac yn rhoi yn y galon hyder.
Drych o drueni oedd edrych yn ol,
Ac edrych ymlaen yr un ffunud;
Llithrodd dan rym y gynddaredd ffol
Na phery ei phleser ond munud.
Treiglodd i ganlyn ei ffawd yma a thraw
Yn adyn heb gartref nac annedd,
Trom ar gymdeithas dyn fu ei law,
A bwriodd ei wenwyn i'w dannedd.
Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/189
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon