Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Troes gemliw wawl tros Gamlan
Oni bu coch wyneb can
A marw pawb o'r Cymry pur
Yno syrthiodd dros Arthur,
Ac onid oedd holl gnawd du
Drudion Medrawd yn madru!

Drwy waed, dros dyrrau o wŷr,
Heb adwy, dug braich Bedwyr,
Uthr ei nerth, arni Arthur,
Oedd lesg gan dduloes ei gur.



Yngo'r oedd lannerch rhwng iraidd lwyni
A llen der wastad o feillion drosti,
Wynned oedd a phe dôi hi,—Olwen dlos—
Ar hyd yr hirnos i grwydro arni.

Er nad pell breithell chwerwaf y Brython,
Yr oedd llawen gerdd i'w llwyni gwyrddion,
Malpai taer wae'r ddaear hon fâi'n peri
O drueni, gân adar Rhiannon!

A chyrchu'r ofer o dan y deri
A orug Bedwyr drwy'r wig heb oedi;
"Y dwfr," ebr ef, "a'th ddwg di o'th ddwys-gur,"
A rhoddi Arthur i orwedd wrthi.


}}