Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hithau Gymdeithas yn flin a'i troes
O gyfyl ei thai a'i hystrydoedd,
Er mai hyhi yn ei gwanc a roes
Y cyfle a'i gwnaeth yr hyn ydoedd.

Cododd ei law yn nhrueni rhyw hwyr
Yn erbyn Cymdeithas a'i llawnder;
Hithau a'i lladdodd o'r diwedd yn llwyr,
A galwodd y gwaith yn gyfiawnder.

Gwelodd y gyfraith honno yn dwyn
Eu bywyd oddiar ei rieni,
Teimlodd ei phwys yn ei yrru'n ddi gŵyn
I rodio hyd lwybrau trueni.

Trengodd yn aberth i gyfraith ei wlad,
Disgynnodd ei melltith hi arno;
Ni chafwyd undyn i gofio 'i ystad,
Ac eto, ystyried a'i barno.