Prawfddarllenwyd y dudalen hon
VII.—ELIN GALON UNIG.
MERCHED truain oedd ei neiniau—
Gwau hosanau, gwneud llieiniau,
Gwisgo betgwn byrr a pheisiau,
Prin y clywai neb eu lleisiau.
Er eu bod yn gweithio'n galed
Ac yn byw yn wir cyn saled,
Methodd henaint, neiniau heini,
Dynnu daint o ben y rheini.
Nes yw arddwrn na phenelin,
Ond nid tebyg ydyw Elin,
Er ei bod i'w nain yn ŵyres,
Cafodd ddannedd gosod, ddwyres.
Pwyllog oedd ei thad ac ara,
Heliodd bres wrth werthu bara,
Ac 'roedd hynny, rhaid dywedyd,
Hen greadur, iddo'n gredyd.
Ond yr oedd ei mam hi, Nansi,
Braidd yn falch a mawr ei ffansi;
Mynnai droi ym mysg y pigion—
Bu'n gwasnaethu boneddigion."