Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Yna troes i ysgrifennu
Ac i siarad ac i sennu,
Ac i hawlio gwir wastadrwydd
Yn lle'r ormes a'r anfadrwydd.
Wedi bod drwy'r wlad yn teithio,
Aeth i'r Senedd i areithio,
Er fod yno ormod eisys
O hen wragedd tra maleisus.
Ac yn ymresymiad, cipiodd.
Berwig swyddog, ac fe'i cripiodd
Hyd nad oedd ei waed redegog
Ar ei wyneb llyfn, blonhegog.
Tynnodd dusw o farf gweinidog,
Aeth a thalp o foch cadfridog,
Dyrnodd esgob yn ei stumog,
Ciciodd blismon yn ei grimog.
Barnodd gwyr y cwt baldorddi
Fod rhyw gythraul yn ei chorddi,
Er nad oedd yr holl godymu
Ddim ond dull o ymresymu.
Cyrchwyd deg o wyr i'w chario,
Bu raid cau y drws a'i fario;
Mynnai'r ustus fod yn dirion—
Carchar fynnodd Elin wirion.