Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/203

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Prin yw ei eiriau
Cras yw ei lais,―
Gwybod yr amser
Yn unig a gais.

Mae cloch yn canu
A phawb yn troi—
Mae'n rhaid i nafi
Gael tamed i'w gnoi.

Ceiniog a dimai
Oedd gan y gwr,
A bwyty ei ginio
O fara a dwr.

"Cinio go fychan,"
Medd un ar draws,
A theif i'r estron
Gilcyn o gaws.

"Hwda," eb arall
Llygatgam, dig,
Ac estyn iddo
Damed o gig.

"Yf," medd y trydydd,
A'i bot yn llawn,
"Diod go ddiflas
Yw merddwr mawn!"