Tonnog, a marian tano.
Yn dres fraith ar draws y fro
'Roedd prydferth flodau'r perthi,
Unlliw od neu ewyn lli;
Dibrin flodau'r eithin aur
Mal haen o glych melynaur;
Mân flodau'r grug yn hugan
Ar y geillt o borffor gwan;
A gwrid yr haul ar grwydr hyd
Y bau bron bob rhyw ennyd
Yn newid lliw, troi dull hon,
A'i hen weddau'n newyddion.
Draw mal mor hyd hir ymyl y marian
Yn llinell lwyd, yr oedd min llyn llydan,
A'i gry lif ar greigiau'r lan yn codi
O hyd, a thorri fel brodwaith arian.
Eto er gwymped natur o'i gwmpas,
Hynny ni lwyddodd i'w ddal na'i luddias,
Nes i grawc anghynnes gras ei atal,
A mwyfwy'r gofal a'r myfyr gafas.
Bran ddu groch ar bren oedd grin,
Goelfawr a hir ei gylfin,
Fwriai'n oer, afar ei nwyd,
Fregliach o'r dderwen friglwyd.
Safodd Bedwyr, myfyr mud
Roes omedd ar ei symud—
Dir, gnawd i grawcian bran brud!