Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Eb Bedwyr: "Och! na boed rin,
Yn y grawc o'r goeden grin
Er y dywaid gair dewin—
'Glywaist ti a gant y fran,
Ai drwg ai da'r darogan,
Na fid cryf heb gleddyf glân.'
Llwybr i dranc y lle bo'r drin,
Diau na ddawr angau rin
Na breiniau glew na brenin.
Diau gwell i wlad yw gwas
Byw, na'r pennaf lyw a las—
Nid gwrdd trengedig urddas!"
Cododd Bedwyr y cadarn
Gledd gerfydd ei gelfydd garn,
A thremio'n hir a thrwm wnaeth
Ar ei gywrain ragoriaeth.
"Ba dro fyth," ebr Bedwyr, "fai
Ddigon i'r sawl a'th ddygai
Galedfwlch rymus, glodfawr,
Heb falio a'th luchio i lawr,
Megys pedfai ddirmygwr,
Onid aet o dan y dwr!
A'n hil, Och! pa ryw farn lem
A gwall fai'n rhan pe'th gollem