Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Dithau? Gan adwyth ei gur
Y dinerthwyd dawn Arthur,
Onitê, diau nad hyn
A barasai heb resyn!
Diogel mi a'th gelaf,
A gweld a ddigwyddo gaf."
Yn ol chwiliaw a chwalu grug a drain
Y graig, dro, o'i ddeutu,
Fe gafodd ef ogof ddu
A magwyr yn ei mygu.
Dychwelodd, edrychodd dro;—nid oedd ddyn,
Nid oedd anadl yno
Ond dwr a'i dwrdd yn taro
Ar y graig, a'i su drwy'r gro.
O'i unigedd, bu'n agos, yn ei ffysg,
Iddo ffoi 'n ddi annos,—
Trwm ar a gelo aros
Distawrwydd, unigrwydd, nos!
Yn ol i'r agen eilwaith, draw e droes
Drwy y drysi diffaith;
Gofalu ar gelu'r gwaith,
Gwrando, tremio, troi ymaith.
A phan ddaeth at y ffynnon,
Aeth, er ei bryder, ger bron.
Y Brenin, a phenlino
A rhoi y gair orug o.