Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ar hynny, ebr y Brenin,
A geiriau bloesg drwy gur blin:
Ateb, a ddarfu iti
Fwrw y llafn i ferw y lli?"
"O'r daith," eb Bedwyr, "deuthym
Yma'n ol d'orchymyn ym."
Eb Arthur: "Nol aberthu
Y glaif hen, ba goel a fu?"
"Hyd y gwn, bid wiw gennyd,"
Eb ef, "ni bu goel o'r byd."
"Brau a thraws," eb Arthur, "yw
Hyn, Bedwyr—geudeb ydyw!
Celaist, awyddaist ei werth,
Galedfwlch, lafn goludferth;
Bedwyr, dychwel heb oedi,
A'r llafn bwrw dithau i'r lli!"
Heb dario i ateb, aeth Bedwyr eto,
Rhedeg i'r undaith er chwerwed gwrando
Ei deyrn yn dodi arno awgrym brad
A chas ddymuniad na cheisiodd mono.
"Diau'r gofid," eb Bedwyr, "a gafodd
Ef drwy iasau ei glwyfau a'i drysodd,
A'i bwyll yn hyn a ballodd gymaint hyd,
Er ei ddoedyd, nad ŵyr a ddywedodd.